Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Odesa

Oddi ar Wicipedia
Odesa
Mathdinas yn Wcráin Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlOdessos Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,010,537 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 g Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHennadij Truchanov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, UTC+2, EET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTbilisi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolOdesa Agglomeration Edit this on Wikidata
Sirbwrdeistref Odesa Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd236.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr40 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Odesa Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaKryzhanivka, Lymanka Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.5°N 30.7°E Edit this on Wikidata
Cod post65000–65480 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Odesa Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHennadij Truchanov Edit this on Wikidata
Map

Odesa (Wcreineg: Одеса) yw'r ddinas bedwaredd fwyaf ynWcráin. Mae ganddi boblogaeth o rhwng 1,029,000 (cyfrifiad 2001) a 1,080,000 (amcangyfrif 2008). Mae'r ddinas yn borthladd pwysig, y mwyaf yn y wlad, sy'n gorwedd ar lan ogleddol yMôr Du.

Theatr Odesa

O 1819 hyd 1858 roedd Odesa yn borthladd rhydd (porto franco). Yn y cyfnod Sofietaidd Odesa oedd porthladd pwysicaf yrUndeb Sofietaidd ac roedd hefyd yn wersyll llynges fawr. Yn y 19g, hon oedd y bedwaredd ddinas yn yRwsiaImperialaidd, ar ôlMoscfa,Saint Petersburg, aWarsaw. Heddiw ceir dau borthladd yn ninas Odesa: Odesa ei hun a Yuzhny (sydd hefyd yn borthladd olew), sy'n gorwedd ym maesdrefi'r ddinas. Ceir porthladd pwysig arall ynoblast Odesa, sefIllichivs'k (Ilyichyovsk), i'r de-orllewin o Odesa. Gyda sawl rheilffordd yn rhedeg o'r ddinas hefyd, mae'n un o greosffyrdd cludiant pwysicaf y wlad. Ceir gweithfeydd prosesu olew a chemegion yn Odesa hefyd, a gysylltir â rhwydweithiau Rwsia a'rUndeb Ewropeaidd trwy gyfres o bibellau strategol.

Dechreuodd y ddinas fel gwladfaGroegaidd. Mae ei hanes yn ddrych i hanes hir a chymhleth Wcráin a Rwsia.

Lleolir dinas Odesa ar res o fryniau sy'n codi ger harbwr naturiol bychan, tua 31 km (19 milltir) i'r gogledd o aberAfon Dniester a thua 443 km (275 milltir) i'r de o'r brifddinas,Kyiv. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol a sych, gyda thymheredd ar gyfartaledd yn Ionawr o -2 °C (29 °F), a 22 °C (72 °F) yng Ngorffennaf. Ceir tua 350 mm (14 mod.) o law mewn blwyddyn.

Y brif iaith ar y stryd ywRwseg, gyda'rWcreineg yn llai cyffredin er ei bod yn iaith swyddol y wlad. Ceir cymysgfa o bobl o sawl cenedligrwydd a chefndir ethnig yno, yn cynnwysWcreiniaid,Rwsiaid,Groegiaid,Iddewon,Moldofiaid,Bwlgariaid,Armeniaid,Georgiaid,Almaenwyr ac eraill.

Gefeilldrefi

[golygu |golygu cod]

Dolen allanol

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
Dinasoedd Wcráin

Kiev ·Kharkiv ·Dnipropetrovsk ·Odesa ·Donetsk ·Zaporizhia ·Lviv ·Kryvyi Rih ·Mykolaiv ·Mariupol ·Simferopol ·Uman ·Korosten ·Alushta

Eginyn erthygl sydd uchod amWcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.


Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Odesa&oldid=13009985"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp