Mae angendiweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd.
Protestwyr
Protest gwrth-gyfalafol ynNinas Efrog Newydd ydyOccupy Wall Street. Sbardunwyd gan y cylchgrawn gwrth-gyfalafolAdbusters,[1] gan ddenu ysbrydoliaeth o brotestiadau tebyg yLos Indignados yn Sbaen[2] a'rGwanwyn Arabaidd. Yn bennaf maent yn protestio yn erbynanghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol, bariaeth corfforaethau, grym cwmnïau a'u dylanwad dros y llywodraeth (yn enwedig y sectorgwasanaethau ariannol) alobïo. Arwyddair y mudiad ywWe are the 99% ("Ni yw'r 99%") sy'n cyfeirio at yr anghydraddoldeb o ran incwm yn yr Unol Daleithiau: mae'r 1% cyfoethocaf yn rheoli tua 40% o gyfoeth y wlad.
Cychwynnodd y gwrthdystiad ar 17 Medi 2011 ac erbyn 9 Hydref bu protestiadau tebyg mewn 70 o ddinasoedd a thros 600 o gymunedau yn yr Unol Daleithiau. Mae protestiadau eraill gyda'r enw "Occupy" wedi eu cynnal mewn dros 900 o ddinasoedd ar draws y byd, er enghraifftOccupy London. Yng Nghymru cafwyd gwersyllfannau yngNghaerdydd[3] acAbertawe.[4]