Heb faes trydanol o gwmpas, mae gronynnau nwy (e.e.atomau,moleciwlau, neuionau) yn symud o gwmpas yn gwbwl rydd.
Maenwy yn un o'r pedwar prifgyflwr mater (ynghyd âsolid,hylif aphlasma). Gall nwy pur gael ei wneud o atomau unigol (e.e.nwy nobl neu nwy atomig felneon) neu foleciwlau elfennaidd wedi'i wneud o un math o atom (e.e.carbon deuocsid). Mae cymysgedd nwyon yn cynnwys nifer o nwyon pur fel y maeatmosffer y Ddaear. Yr hyn sy'n gwneud nwy mor wahanol i hylif neu solid ydy'r gap neu'r lle gwag rhwng yr holl ronynnau. Effaith y lle gwag yma ydy nwy di-liw, fel arfer.
Yr unigelfennau cemegol sy'n sefydlog ardymheredd a gwasgedd Ssafonol (STP) yw:hydrogen (H2),nitrogen (N2) acocsigen (O2); a hefyd dauhalogen,fflworin (F2) achlorin (Cl2). Mae'r rhain, wedi'u grwpio gyda'r nwyon nobl (heliwm) (He), neon (Ne),argon (Ar),crypton (Kr),senon (Xe) aradon (Rn)) yn cael eu galw'n ‘nwyon elfennaidd’. Ar y llaw arall, maen nhw weithiau'n cael eu galw'n ‘nwyon moleciwlaidd’ er mwyn eu gwahaniaethu oddi wrth moleciwlau sydd hefyd yn elfennau cemegol.