Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Norm Macdonald

Oddi ar Wicipedia
Norm Macdonald
Norm Macdonald yn 2016
GanwydNorman Gene Macdonald Edit this on Wikidata
17 Hydref 1959 Edit this on Wikidata
Québec Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 2021 Edit this on Wikidata
ocanser Edit this on Wikidata
Duarte Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Carleton
  • Gloucester High School
  • Quebec High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr,sgriptiwr, actor ffilm, digrifwr stand-yp, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, actor llais, actor teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Saturday Night Live Edit this on Wikidata

Digrifwr ac actor comig oGanada oeddNorman Gene Madconald (17 Hydref195914 Medi2021).

Ganed yn ninasQuébec i deulu Saesneg o dras Albanaidd. Dechreuodd ar ei yrfastand-yp mewn clybiau ynOttawa yng nghanol y 1980au. Ysgrifennodd i'r gomedi sefyllfaRoseanne cyn iddo ymuno â chast y sioe sgetshisSaturday Night Live ym 1993. Daeth yn enwog am gyflwyno'r sgetsh reolaidd ffug-newyddion "Weekend Update". Cafodd ei ddiswyddo oSaturday Night Live ym 1998.

Yn niwedd y 1990au a'r 2000au, ymddangosodd Macdonald mewn nifer o ffilmiau comedi a chomedïau sefyllfa ar y teledu, ac yn aml ar sioeau sgwrs yr hwyrnos. Yn 2013 dechreuoddbodlediad o'r enwNorm Macdonald Live, a gafoddddilyniant cwlt ar-lein. Cyhoeddodd led-hunangofiant o'r enwBased on a True Story yn 2016.

Bu farw Norm Macdonald yn 61 oed oganser.[1]

Bywyd cynnar a theulu

[golygu |golygu cod]

Ganed Norman Gene Macdonald ar 17 Hydref 1959 yn Québec, yn nhalaithQuébec,Canada.

Newyddiadurwr yw ei frawd hŷn, Neil Macdonald.

Gyrfa stand-yp gynnar

[golygu |golygu cod]

Perfformiodd stand-yp am y tro cyntaf yng nghlwb Yuk Yuk's yn Ottawa. Ym 1984 treuliodd bedwar mis fel perfformiwr agoriadol ar gyferSam Kinison, un o ddigrifwyr mwyaf Unol Daleithiau America ar y pryd. Datblygodd Macdonald ei arddullddi-wên nodweddiadol yn y cyfnod hwn. Ymddangosodd arLate Night withDavid Letterman am y tro cyntaf ym 1990, a daeth yn wyneb (a llais) gyfarwydd ar sawl sioe sgwrsio yr hwyrnos.

Aeth iLos Angeles,Califfornia, i barhau â'i yrfa stand-yp, ac yno cafodd ei hurio yn ysgrifennwr teledu ar gyfer y sioe sgwrsioThe Dennis Miller Show (a barodd ychydig o fisoedd yn unig), a'r gomedi sefyllfaRoseanne yn serennuRoseanne Barr, un o'r cyfresi comedi mwyaf poblogaidd ar deledu Americanaidd yn y 1990au.

Saturday Night Live

[golygu |golygu cod]

Ym 1993 cafodd Macdonald gyfweliad âLorne Michaels, creawdwr a chynhyrchydd y sioe sgetshis fywSaturday Night Live (SNL) ar sianel NBC. Ymunodd â chastSNL ym 1993, ac o fewn blwyddyn fe'i penodwyd i olynu Kevin Nealon fel cyflwynyddWeekend Update, rhan reolaidd o'r sioe a oedd yn cymryd ffurf rhaglen newyddion gyda jôcs yn seiliedig ar straeon yr wythnos. Yn ogystal â'i rôl arWeekend Update, bu Macdonald yn actor ategol mewn sgetshis eraill ac yn dynwared enwogion, gan gynnwysBob Dole,Burt Reynolds, David Letterman,Larry King, aQuentin Tarantino.

Yn nechrau 1998, cafodd Macdonald ei ddiswyddo o gyflwynoWeekend Update ar gais Don Ohlmeyer, llywydd NBC Entertainment, West Coast. Bu nifer yn credu nad oedd Ohlmeyer yn fodlon ar jôcs Macdonald am ei gyfaill,O. J. Simpson. Ymddangosodd mewn rhagor o benodauSNL ym 1998, ond gadawodd y gyfres yn gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn.[2]

Ffilm a theledu

[golygu |golygu cod]

Ysgrifennodd Macdonald y ffilm gomediDirty Work (1998), a fe gyd-serennodd yn y ffilm honno gydagArtie Lange. Ymddangosodd sawl actor a digrifwr amlwg yn y ffilm, gan gynnwysJack Warden,Chevy Chase, aDon Rickles. Ni châi fawr o glod gan y beirniaid, a fuont yn lladd ar hiwmor di-chwaeth y ffilm, ond dros amser fe'i disgrifiwyd yn rhywbeth o "glasur cwlt".

O 1999 i 2001, serennodd mewn comedi sefyllfa ei hun ar sianel ABC o'r enwThe Norm Show (a gafodd ei ail-enwi'nNorm ar gyfer yr ail gyfres). Yn 2011 cyflwynodd raglen gomedi am chwaraeon,Sports Show with Norm Macdonald, ar sianel Comedy Central.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg)"Comedian Norm Macdonald dies at 61 after battle with cancer",The Globe and Mail (14 Medi 2021). Archifwyd o'rdudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Medi 2021.
  2. (Saesneg) Neil Genzlinger, "Norm Macdonald, ‘Saturday Night Live’ Comedian, Dies at 61",The New York Times (14 Medi 2021). Archifwyd o'rdudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Medi 2021.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Norm_Macdonald&oldid=12923632"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp