Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Noa

Oddi ar Wicipedia
Noa
Enghraifft o:bod dynol yn y Beibl Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Noa yn gollwng y Golomen o'rArch;brithwaith ynBasilica San Marco,Fenis (12fed-13eg ganrif)

CymeriadBeiblaidd, mabLamech o hiliogaethSeth, y ceir ei hanes ynLlyfr Genesis yn yrHen Destament, yTorah a'rCoran ywNoa. Mae'n ffigwr pwysig yng nghrefyddauIddewiaeth,Cristnogaeth acIslam a gysylltir â chwedlY Dilyw acArch Noa. Bu ganddo dri mab, sefSem,Ham aJaffeth (tadGomer).

Yn Llyfr Genesis olrheinir ei enw i airHebraeg yn golygu "cysur", a roddir ef iddo gan ei dad, Lameth, i arwyddo y byddai yn fendith ac yn gysur i drigolion y byd yn wyneb y llafur a osodwyd arnynt am eupechodau gan felltithDuw ar y ddaear.

Ceir sawl chwedl am Noa yn yBeibl, y Torah a'r Coran. Yn Genesis dywedir mai ef oedd y cyntaf i ddarganfod ywinwydden a chaelgwin ohoni.

Ond y brif chwedl a gysylltir ag ef yw chwedlY Dilyw (Gen. 6-9). Credir fod y rhan yma o'i hanes yn seiliedig ar y cymeriad mytholegolUt-napishtim, arwr hanes y Dilyw ym mytholegBabilonia. Gorchymynodd Duw i Noa adeiladu arch i achub ef a'i deulu (ei thri mab a'u gwragedd) a deuryw anifeiliaid y byd rhag y Dilyw. Pan ddaeth yr arch i orffwys ar dir sych eto - arArarat - adeiladodd Noaallor ac offrymodd i Dduw. Gwnaeth Duw gyfamod ag ef, a gynrychiolir gan yrenfys (Gen 9:9-17).

Yn y traddodiad Iddewig a Christnogol mae Noa,Daniel aJob yn cynrychioli tri phatrwmcyfiawnder (Esec 14).

Yn Islam cyfrifir Noa (Nuh) yn un o'r proffwydi mawr yn yr olyniaeth sy'n cychwyn gydagAdda ac yn gorffen gydaMohamed. Gwrthodir y chwedl am Noa yn darganfod cyfrinach gwin ac yn meddwi arno gan Fwslemiaid am nad ydy i'w cael yn yCoran.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  • Thomas Rees ac eraill (gol.),Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), Cyfrol II, d.g. Noa.
Eginyn erthygl sydd uchod amIddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod amGristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod amIslam. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Noa&oldid=13102460"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp