Ynseryddiaeth, cwmwl onwy allwch yny gofod sy'n dod yn weladwy dan amgylchiadau neilltuol ywnifwl neunebiwla (Lladin:nebula). Mae'r rhan fwyaf o'r nifylau a welir yn nifylau rhyngseryddol.
Achosir i nifwl fod yn weladwy am y rhesymau canlynol:
Mae nifwl allyrru yn weladwy am fod y nwy ynddo yn cael eiïoneiddio ganymbelydredd uwchfioled, fel rheol oseren boeth o fewn y cwmwl. Wrth i'r ïonau adweithio gydagelectronnau rhydd, creirgoleuni (yn rhannaucoch agwyrdd o'r sbectrwm gan amlaf) sy'n cael ei daflu allan o'r nifwl. MaeNifwl Mawr Orion yn enghraifft dda o nifwl allyrru.
Gelwir yr ail fath o nifwl ynnifwl adlewyrch, lle mae goleuni o seren agos yn cael ei adlewyrchu i bob cyfeiriad gan y llwch yn y nifwl, gan ei oleuo fel canlyniad.
Yn olaf ceir ynifwl tywyll. Yn yr achos yma, yn lle adlewyrchu goleuni mae'r llwch yn y nifwl yn ei leihau yn sylweddol gan beri i'r nifwl sefyll allan fel ffurf dywell ar gefndir mwy golau.
Maenifylau planedol yn fath arbennig o nifwl allyrru ffurfiwyd gan hen seren esblygedig sydd wedi gwthio nwy oddi wrth eu wynebau. Tarddiad hanesyddol yr enw oedd y ffaith bod llawer yn ymddangos fel blaned bell trwy delescopau bach.[1]
Creodd y seryddwr FfrengigCharles Messier ei gatalog enwog (Catalog Messier) gan gredu ei fod yn cofnodi nifylau, ond erbyn heddiw gwyddom mai dim ond rhai o'r wrthrychau Messier sy'n nifylau ac maigalaethau a gwrthyrchau eraill ydy'r mwyafrif ohonynt.
Yn hanesyddol, defnyddiwyd y term nifwl i ddisgrifio galaethau, ond heddiw adnabyddir fod galaethau yn gyfundrefnau annibynnol o sêr, nwy a mater tywyll. Felly dydy'r term nifwl byth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio galaeth heddiw.