Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Nico

Oddi ar Wicipedia
Nico
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Passeriformes
Teulu:Fringillidae
Genws:Carduelis
Rhywogaeth:C. carduelis
Enw deuenwol
Carduelis carduelis
(Linnaeus, 1758)
Carduelis carduelis carduelis

Mae'rNico (Carduelis carduelis) yn perthyn i'r teuluFringillidae. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf oEwrop acAsia.

Nid yw'r Nico ynaderyn mudol yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n weddol gynnes, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de a'r gorllewin yn y gaeaf. Mae'n aderyn gweddol fychan, 12-13.5 cm o hyd ac yn pwyso rhwng 16 a 22 gram. Nid oes gwahaniaeth rhwng y ddau ryw; mae gan y ddau wyneb coch, du a gwyn ar y gweddill o'r pen, brown ar y cefn a gwyn ar y bol, gydag adenydd du a melyn.

Hadau yw eu brif fwyd, yn enwedig hadau bychain, er enghraifft hadauysgall, ond maent hefyd yn dal pryfed i fwydo'r cywion. Maent yn nythu mewn coed gweddol uchel ac yn dodwy o 4 i 6 ŵy. Yn y gaeaf maent yn aml yn ymgasglu'n heidiau, weithiau gyda llinosiaid eraill. Mae'r Nico yn aderyn cyffredin ac adnabyddus yngNghymru.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Nico&oldid=10957242"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp