Ardal o anialwch yn neIsrael yw'rNegev (Hebraeg: נֶגֶב, ynganiad Tiberiaidd: Néḡeḇ). Mae'rBedouin brodorol yn ei alw ynal-Naqab (Arabeg: النقب). Tardda'r gair Negev o wraidd Hebraeg sy'n golygu 'sych'. Yn yBeibl mae'r gair Negev yn golygu cyfeiriad 'y De'.
Mae'r Negev yn gorchuddio mwy na hanner tiriogaeth Israel, dros 13,000 km² (4,700 milltir sgwar) neu 55% o'r wlad. Mae'n ffurfio triongl a'i ymyl orllewinol yn cyffwrdd ag anialwch gorynysSinai a'i ymyl ddwyreiniol yn cael ei dynodi gan ddyffrynArabah a'rMôr Marw. Mae'n anialwch creigiog gyda sawl dyffryn sych (wadi) yn rhedeg trwyddo. Mae'r rhan ogleddol yn cael mwy o law ac yn gymharol ffrwythlon tra bo'r de'n sych iawn.
Mae'r Negev yn gartref i tua 379,000Iddew a thua 175,000 Bedouin. Mae tua 80,000 o'r Bedouin yn byw mewn pentrefi (dim ond canran isel iawn sy'n lled-nomadig erbyn heddiw) sydd ddim yn cael eu cydnabod gan yr awdurdodau Israelaidd ac sydd dan fygythiad o gael eu dymchwel dan y gyfraith. Mae rhai wedi galw hyn yn bolisi o "lanhau ethnig" yn y Negev.[1][2]