Nant Gwynant, yn edrych tua'r de-orllewin; Llyn Gwynant yn y canol. | |
Math | dyffryn, pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Beddgelert ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0374°N 4.0471°W ![]() |
![]() | |
MaeNant Gwynant yn ddyffryn mynyddig yEryri sy'n arwain oBen-y-Gwryd tua'r de-orllewin cyn belled aBeddgelert. Mae rhan uchaf y dyffryn yn cael ei ffurfio ganNant Cynnyd, sy'n llifo i mewn iAfon Glaslyn. Wedi llifo trwyLlyn Gwynant, mae'r afon (a elwir hefyd yn "Nant Gwynant") yn mynd heibio pentref bychanBethania cyn cyrraeddLlyn Dinas. Gan adael o dde-orllewin y llyn, mae'n mynd heibio bryngaerDinas Emrys ac yn cyrraedd Beddgelert lle maeAfon Colwyn yn ymuno â hi. MaeYr Wyddfa a'i chriw ar ochr ogleddol y dyffryn, a mynyddoeddy Moelwynion ar yr ochr ddeheuol.
Mae'r briffordd A498 yn dilyn Nant Gwynant o Ben-y-Gwryd i Feddgelert, cyn mynd ymlaen trwy Aberglaslyn iBorthmadog. Rhwng Pen-y-Gwryd a Beddgelrt mae'r ffordd yn disgyn tua 600 troedfedd.
Ceir nifer o henebion diddorol yn Nant Gwynant. Ger Pen-y-Gwryd mae olion gwersyll Rhufeinig; gwesyll dros dro i filwyr yn hytrach na chaer, ac efallai'n dyddio i gyfnod y goncwest Rufeinig. Ychydig yn is i lawr mae Cwm Dyli ar yr ochr ogleddol i'r dyffryn. Ceir nifer o olion cytiau cynhanesyddol yma, a hefyd yr orsaf bwer a adeiladwyd tua chan mlynedd yn ôl i gynhyrchu trydan trwy ddefnyddio'r dŵr sy'n llifo i lawr oLyn Llydaw. Ychydig yn is i lawr mae Hafod Lwyfog, sy'n dyddio i'r 1540au. Rhwng y ddau lyn mae Hafod-y-Llan, a brynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1998; mae Llwybr Watkin i ben yr Wyddfa yn cychwyn yma. Gerllaw Llyn Dinas mae craig o'r enw Carreg yr Eryr a oedd, yn ôl siarter o'r flwyddyn1198, yn nodi'r fan lle roedd cantrefiEifionydd,Ardudwy acArfon yn cyfarfod. Mae ganGerallt Gymro stori foderyr yn arfer eistedd ar y garreg unwaith yr wythnos, yn aros am ryfel rhwng gwŷr y tri chantref. Rhwng y llyn a Beddgelert mae Mwynglawdd Sygn, hen gloddfa copr sydd yn awr wedi ei hagor i'r cyhoedd.Ymhlith enwogion y Nant mae'r dramodyddMeic Povey a dreuliodd ddeng mlynedd gyntaf ei oes yno.