Siôn Corn modernPaentiad o enedigaeth Crist, ganBronzino
GŵylGristnogol flynyddol yw'rNadolig, sy'n dathlugenedigaethIesu Grist. Mae nifer o arferion yn gysylltiedig â'r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf megis y gwyliauCeltaidd. Mae'r dyddiad ynben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd. Yn draddodiadol, mae'rgelynnen yn chwarae rhan amlwg dros yr ŵyl, a hefyd wasanaethy plygain ac ymweliadSiôn Corn. Hefyd mae plant yn cymryd rhan mewn sioeau Nadolig.
Daw geirdarddiad y gairNadolig o'r gairLladinNatalicia (Natalis) sy'n golygu digwyddiad sy'n ymwneud â geni.[1][2] Mae'r ieithoedd Celtaidd yn defnyddio enwau tebyg felNedeleg (Llydaweg) aNollaig (Gwyddeleg).
Yn dilyn tröedigaeth yrEingl-Sacsoniaid ynLloegr o'uhamldduwiaeth frodorol (ffurf ar grefydd yGermaniaidpaganaidd) yn gynnar yn y7g, gelwyd y Nadolig yngeol yn Lloegr, sy'n dod o'r gairGermaneg am ŵyl yrheuldro cyn-Gristnogol a oedd yn disgyn ar yr un diwrnod. O'r gairgeol daw'r gair Saesneg presennol,Yule. Mae nifer o arferion a gysylltir â'r Nadolig cyfoes yn tarddu o arferion y paganiaid Almaenaidd.
Cynyddodd amlygrwydd Diwrnod y Nadolig yn raddol ar ôl i'r YmerawdwrSiarlymaen gael ei goroni ar Ddiwrnod y Nadolig yn800. Tua'r12g, trosglwyddwyd olion hen draddodiadau'r duwRhufeinigSadwrn, sef ySaturnalia Rhufeinig, i Ddeuddeg Diwrnod y Nadolig (26 Rhagfyr – 6 Ionawr). Roedd y Nadolig yn ystod yrOesoedd Canol yn ŵyl gyhoeddus, gan gyfuno defnydd symbolaidd oeiddew,celyn a phlanhigion bytholwyrdd eraill yn ogystal â rhoi anrhegion.
Gwelwyd y craceri Nadolig am y tro cyntaf ym 1847 pan gawsant eu dyfeisio gan Tom Smith, prentis cyfreithiwr. Ychwanegodd y stribed o solpitar ym 1860. Dydy'r goeden Nadolig ("draddodiadol") ddim yn hen iawn, Albert, gŵr y Frenhines Victoria, ddaeth â hi i wledydd Prydain.J. Glyn Davies sy'n gyfrifol am fathu'r enw CymraegSiôn Corn, sef Santa Clôs a oedd yn ddatblygiad ei hun ar draddodiad Seisnig,Father Christmas.
Mae traddodiadau cyfoes wedi datblygu i gynnwys presebau, tinsel a choed Nadolig plastig, cyfnewid cardiau ac anrhegion, ac ymweliad Siôn Corn ar Noswyl neu fore'r Nadolig.
Daeth yr hosan i Wledydd Prydain am y tro cyntaf yn y 19g gan addasu'r arfer Americanaidd o roi esgidiau allan i Sant Nicolas.
Ceir llawer iawn ogarolau a chanu plygain wedi'u cadw; arferid eu canu yn ystod cyfnod y Nadolig. Gwasanaeth cwbl Gymreig ydyw, a gynhelir mewn capel neu eglwys yn gynnar ar fore'r Nadolig neu ar noswyl Nadolig fel arfer. Bydd dynion a merched yn canu carolau ac emynau hynafol, digyfeiliant fel arfer ac mewn tri neu bedwar llais. Er mai dathlu geni a hanes Crist mae'r geiriau, mae gwreiddiau cerddorol carolau'r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru, ond fel y cyfryw mae llawer ohonynt yn cynnwys llinellau am y croeshoelio.[3]
Dail a ffrwyth y gelynnen (Ilex aquifolium, celynnen Ewropeaidd).
Tan yn ddiweddar,celyn yn unig a ddefnyddiwyd i harddu'r tŷ: cangen braff wedi'i gosod ger y lle tân. Ni roddid fawr o anrhegion oddigerth i oren neu afal, efallai. Ond mae gwreiddiau'ruchelwydd yn ddwfn yng nghredoau'rderwyddon; arferid ei dorri gyda chryman aur a'i ddefnyddio mewn diod a defodau.
Pobl ymgynnull ynRhuthun, tua adeg y Nadolig er mwyn tywys Y Fari Lwyd o gwmpas rhai o dai'r ardal.
Traddodiad unigryw a hynafol iawn yng Nghymru ydy'rFari Lwyd, traddodiad sy'n parhau hyd heddiw rhwng y Nadolig aNos Ystwyll, ond sy'n tarddu efallai o draddodiadau am y dduwies GeltaiddEpona (Rhiannon yn y traddodiad Cymreig). Penglog ceffyl o dan gynfas, wedi'i addurno â chlychau yw'rFari Lwyd. Roeddgwaseila yn rhan o'r hwyl – sef mynd â ffiol yn llawn cwrw a sbeis o dŷ i dŷ.
Mae gwneudcyflaith ("cyfleth" neu "taffi"; taffi meddal) yn arferiad sy'n gysylltiedig âdydd Calan a'r Nadolig; roedd ei wneud yn gywir yn dipyn o grefft a byddai'n arferiad arllwys y taffi cynnes, gwlyb ar garreg neu lechen wedi ei olchi a'i iro'n dda. Yna, byddai aelodau'r teulu'n ei dynnu, ei gordeddu o gwmpas handlen drws ayyb. Yn draddodiadol, roedd yn digwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain. Arferid perfformio rhyw fath o ddarogan gwerin gyda'r cyflaith hefyd; i ddewina pwy fyddai rhywun yn ei briodi, gollyngwyd darnau o'r taffi i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai – dyma lythyren(nau) cyntaf o'r cariad.[3]
Hyd at ryw ganrif yn ôl, arNos Ystwyll (y 6ed o Ionawr - deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig a diwedd yr ŵyl) arferid hela'r dryw, sy'n aderyn bach, cyflym â chân uchel, brysur ganddo. Byddai'r dryw yn cael ei ladd, ei addurno, a'i roi mewn 'tŷ' neu flwch bychan. Byddai grŵp o ddynion wedyn yn cludo'r tŷ o gwmpas y pentref, a byddai trigolion y pentref yn rhoi arian iddynt am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach.
Wrth gwrs mae'r arferiad hwn wedi dod i ben ers tro, ac nid oes llawer o arwyddocâd i Nos Ystwyll yng Nghymru bellach.[3]
Roedd nosweithiau gwneud cyflaith yn ddigwyddiadau cymdeithasol a arferai ddigwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain. Defnyddiwyd y cyfleth i ragweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o'r taffi poeth i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai. Nodai hyn llythyren cyntaf enw'r person.