Deunydd daearegol a hefydlain isradd ywmuchudd. Nis ystyrir yn wirfwyn, ond yn hytrach ynfineraloid am fod iddo darddiad organig, gan ei fod yn deillio o bren sydd wedi newid dan wasgedd eithafol. Mae 'muchudd' yn ogystal yn anosddair yn golygu "du fel y muchudd", yn yr un modd y dywedir "jet-black" ynSaesneg.[1]
Mae'r muchudd yn ffurfio o ganlyniad i bren a fraenodd filiynau o flynyddoedd yn ôl dan wasgedd uchel, yn aml pren o eiddo'rAraucariaceae. Ceir dwy ffurf ar fuchudd: caled a meddal. Canlyniad cywasgaidcarbon a dŵr hallt yw muchudd caled; canlyniad cywasgaid carbon a dŵr croyw yw muchudd meddal.
Mae muchudd yn carfio'n hawdd iawn, ond mae'n anodd ei gerfio â manylder heb ei dorri, a chan hynny cymer amser ac addysg briodol yn y grefft o'i gerfio er mwyn cerfio muchudd yn gelfydd.
Mae'r muchudd â chaledwch sy'n amrywio rhwng 2 a 4 yn ôlGraddfa Mohs adwysedd cymharol rhwng 1.30 ac 1.14. Mae ganddofynegrif plygiant o 1.66 yn union. Pan gyffyrddir muchudd â nodwydd poethgoch fe ryddha arogl tebyg ilo.[2]