Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Mosambîc

Oddi ar Wicipedia
Mosambic
ArwyddairDewch i'r fan lle cychwynwyd y cyfan Edit this on Wikidata
Mathgweriniaeth, gwladwriaeth sofran,gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlYnys Mozambique Edit this on Wikidata
PrifddinasMaputo Edit this on Wikidata
Poblogaeth29,668,834 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd25 Mehefin 1975 (Annibyniaeth oddi wrthPortiwgal)
1977–1992 (Rhyfel Cartref)
AnthemPátria Amada Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMaria Benvinda Levy Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, Africa/Maputo Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Portiwgaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Affrica, Gwledydd Affricanaidd sy'n siarad Portiwgaleg Edit this on Wikidata
GwladBaner Mosambic Mosambic
Arwynebedd801,590 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTansanïa,Malawi,Sambia,Simbabwe,Eswatini,De Affrica,Y Comoros Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19°S 35°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Mosambic Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad y Weriniaeth Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Mosambic Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethDaniel Chapo Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Mosamic Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMaria Benvinda Levy Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$15,777 million, $17,851 million Edit this on Wikidata
ArianMetical Mosambic Edit this on Wikidata
Canran y diwaith23 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant5.359 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.446 Edit this on Wikidata

MaeMosambîc (yn swyddogol:Gweriniaeth Mosambîc), yn wlad sydd wedi'i lleoli yn Ne-ddwyrain Affrica, ac sy'n ffinio âChefnfor India i'r dwyrain,Tansania i'r gogledd,Malawi aSambia i'r gogledd-orllewin,Simbabwe i'r gorllewin, acEswatini aDe Affrica i'r de a'r de-orllewin. Mae'r wladwriaeth sofran hon wedi'i gwahanu oddi wrth yComoros,Mayotte, aMadagascar gan Sianel Mosambîc i'r dwyrain. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf ywMaputo sydd a phoblogaeth o 1,133,200(1 Gorffennaf 2023)[1] ac mae ganMosambîc gyfan boblogaeth o 29,668,834(2017)[2].

Rhwng y7g a'r11g, datblygodd cyfres o drefi porthladdol Swahili yn yr ardal, a gyfrannodd at ddatblygiad diwylliant a thafodiaith Swahili. Yn y cyfnod canoloesol hwyr, byddai masnachwyr oSomalia,Ethiopia,yr Aifft,Arabia,Persia acIndia yn ymweld â'r trefi hyn. Nododd mordaithVasco da Gama ym 1498 ddyfodiad y Portiwgaliaid, a ddechreuodd y broses o wladychu ryw saith mlynedd wedyn. Ar ôl dros bedair canrif o reolaeth Portiwgalaidd,enillodd Mosambîc ei hannibyniaeth ym 1975, gan ddod yn Weriniaeth Pobl Mosambîc yn fuan wedi hynny. Ar ôl dim ond dwy flynedd o annibyniaeth, disgynnodd y wlad i ryfel cartref dwys a hir a barhaodd o 1977 i 1992. Ym 1994, cynhaliodd Mosambîc ei hetholiad aml-bleidiol cyntaf ac ers hynny mae wedi parhau i fod yn weriniaeth arlywyddol gymharol sefydlog, er ei bod yn dal i wynebu peth gwrthryfela yn y rhanbarthau pellaf o'r brifddinas, lle mae Islamiaeth ar ei chryfaf.

Mae gan Mosambîc adnoddau naturiol cyfoethog a helaeth, er gwaethaf y ffaith bod economi'r wlad yn seiliedig yn bennaf ar bysgodfeydd llwyddiannus—molwsg,cramenogion acechinodermau yn bennaf—ac amaethyddiaeth gyda diwydiant bwyd a diod, gweithgynhyrchu cemegol,alwminiwm ac olew. Mae'r sector twristiaeth yn ehangu'n flynyddol. Ers 2001, mae twfCMC Mosambîc wedi cynyddu, ond ers 2014/15, gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn gwariant y cartrefi. Gwelir cynnydd sydyn yn yr anghydraddoldeb economaidd.[3] Mae'r genedl yn parhau i fod yn un o'r gwledydd tlotaf a mwyaf tanddatblygedig yn y byd, gan raddio'n isel o ranCMC y pen,datblygiad dynol, anghydraddoldeb adisgwyliad oes cyfartalog.

Mae poblogaeth y wlad yn cynnwys mwy na 2,000 o grwpiau ethnig, yn ôl amcangyfrifon 2024, sy'n gynnydd o 2.96% yn y boblogaeth o 2023, yn cynnwyspobl Bantu yn bennaf. Fodd bynnag, yr unig iaith swyddogol ym Mosambîc ywPortiwgaleg, a siaredir mewn ardaloedd trefol fel iaith gyntaf neu ail iaith, ac yn gyffredinol fellingua franca rhwng Mosambîciaid iau sydd â mynediad at addysg ffurfiol. Ymhlith yr ieithoedd lleol pwysicaf mae Tsonga, Makhuwa, Sena,Chichewa, aSwahili. Mae Glottolog yn rhestru 46 o ieithoedd a siaredir yn y wlad,[4] ac mae un ohonynt yn iaith arwyddion (Iaith Arwyddo Mosambîc/Língua de sinais de Moçambique ). Y grefydd fwyaf ym Mosambîc yw Cristnogaeth, gyda lleiafrifoedd sylweddol yn dilyn Islam a chrefyddau traddodiadol Affricanaidd.

Geirdarddiad

[golygu |golygu cod]

Cafodd y wlad ei henwi'n Moçambique gan y Portiwgaliaid ar ôl Ynys Mozambique, gair sy'n deillio o Mussa Bin Bique,Musa Al Big,Mossa Al Bique,Mussa Ben Mbiki neuMussa Ibn Malik, masnachwr Arabaidd a ymwelodd â'r ynys yn gyntaf ac a fu'n byw yno'n ddiweddarach ac a oedd yn dal yn fyw pan alwoddVasco da Gama ar yr ynys ym 1498.[5] Prifddinas y drefedigaeth Bortiwgalaidd oedd y drefedigaeth ar yr ynys tan 1898, pan gafodd ei symud i'r de i Lourenço Marques (sydd bellach ymMaputo).

Dhow o Mosambîc

Hanes

[golygu |golygu cod]

Mudo Bantw

[golygu |golygu cod]

Ymfudodd pobloedd sy'n siaradBantw i Mosambîc mor gynnar â'r4g CC.[6] Credir rhwng yganrif gyntaf a'r5g OC, bod tonnau o fudo o'r gorllewin a'r gogledd wedi mynd trwy ddyffryn AfonZambezi ac yna'n raddol i mewn i lwyfandir ac ardaloedd arfordirol De Affrica. Fe wnaethant sefydlu cymunedauamaethyddol yn seiliedig ar fugeilio gwartheg. Daethant â'r dechnoleg ar gyfer toddi[7] a thrinhaearn gyda nhw.

Arfordir Swahili

[golygu |golygu cod]

O ddiwedd y mileniwm cyntaf OC, ymestynnodd rhwydweithiau masnach helaeth drwy Gefnfor India mor belled a phorthladd hynafol Chibuene.[8] Gan ddechrau yn y9g, datblygodd masnach Cefnfor India yn fawr a gwelwyd nifer o drefi porthladdol ar hyd arfordir Dwyrain Affrica cyfan, gan gynnwys Mosambîc heddiw. Roedd y rhain yn annibynol ac yn hunangynhaliol ond eto'n rhanu'r diwylliant Swahili. Yn aml, mabwysiadwydIslamiaeth gan arweinwyr y cymunedau. Ym Mozambique, roedd Sofala, Angoche, ac Ynys Mosambîc yn bwerau rhanbarthol erbyn y 15g.[9]

Roedd y trefi hyn ynmasnachu â masnachwyr o fewndir Affrica a'r byd ehangach drwy Gefnfor India. Roedd llwybrau carafanau aur ac ifori yn arbennig o bwysig. Darparodd taleithiau mewndirol fel Teyrnas Simbabwe a Theyrnas Mutapa yr aur a'r ifori, gan eu cyfnewid wedyn i fyny'r arfordir i ddinasoedd porthladdol mwy fel Kilwa aMombasa.

Mosambîc Portiwgaleg (1498-1975)

[golygu |golygu cod]
Manylyn o Ynys Mozambique, cyn brifddinas yng Ngogledd Mosambîc ac yn amlwg yn hanes y wlad
Capel Nossa Senhora de Baluarte

Enwir y wlad ar ôll Ynys Mozambique, sef ynys gwrel fechan ger Bae Mossuril ar arfordir Nacala yng ngogledd Mozambique, a archwiliwyd gyntaf gan Ewropeaid ddiwedd y15g.

Pan gyrhaeddodd fforwyr Portiwgalaidd Mosambîc ym1498, roedd aneddiadau masnachu (Arabaidd) wedi bodoli ar hyd arfordir ac ynysoedd cyfagos ers sawl canrif.[10] O tua1500, disodlwyd y swyddi masnachu a chaerau milwrol, Portiwgalaidd llawer o'r gymuned Arabaidd (o ran masnach a safleoedd milwrol), gan ddod yn borthladdoedd galw rheolaidd ar y llwybr môr.[11] Dyma'r camau cyntaf yn yr hyn a fyddai'n dod yn broses o wladychu gan y Portiwgaliaid.[11][12]

Nododd taithVasco da Gama o amgylchPenrhyn Gobaith Da ym 1498 fynediad y Portiwgaliaid i fasnach, gwleidyddiaeth a chymdeithas y rhanbarth. Enillodd y Portiwgaliaid reolaeth dros Ynys Mosambîc a dinas Sofala ddechrau'r16g, ac erbyn y1530au, treiddiodd grwpiau bach o fasnachwyr a chwilwyr Portiwgalaidd yn chwilio amaur gan weithio eu ffordd i fewn i berfedd y wlad. Yma fe wnaethon nhw sefydlu garsiynau a swyddi masnachu yn Sena a Tete ar y Zambezi a cheisio rheoli'r fasnach aur yn llwyr.[13]

Rhyfel Annibyniaeth Mosambîc (1964–1975)

[golygu |golygu cod]
MilwyrPortiwgalaidd yn ystod Rhyfel Trefedigaethol Portiwgal, gyda'u FN FAL, AR-10 a H&K G3

Wrth i syniadaucomiwnyddol agwrth-drefedigaethol ledaenu ledled Affrica, sefydlwyd llawer o fudiadau gwleidyddol cudd i gefnogi annibyniaeth Mosambîc. Honnodd y mudiadau hyn, mai ychydig o sylw a roddwyd i integreiddio llwythau brodorol Mosambîc a datblygiad ei chymunedau. Yn ôl y datganiadau gerila swyddogol, effeithiodd hyn ar fwyafrif y boblogaeth frodorol a ddioddefodd wahaniaethu enbyd a noddwyd gan y wladwriaeth Bortiwgalaidd a phwysau cymdeithasol enfawr. Fel ymateb i'r mudiad gerila, cychwynnodd llywodraeth Portiwgal o'r1960au ac yn bennaf ddechrau'r 1970au newidiadau graddol gyda datblygiadau economaidd-gymdeithasol newydd a pholisïau egalitaraidd, tecach.[14]

Dechreuodd y Ffrynt dros Ryddhau Mosambîc (Frente de Libertação de Moçambique; FRELIMO) ymgyrch gerila yn erbyn rheolaeth Portiwgal ym Medi 1964. Daeth y gwrthdaro hwn—ynghyd â'r ddau arall a gychwynnwyd eisoes yn Angola a Gini Portiwgalaidd —yn rhan o'r hyn a elwir yn Rhyfel Trefedigaethol Portiwgalaidd (1961–1974). O safbwynt milwrol, roedd y fyddin reolaidd Portiwgalaidd yn dal rheolaeth dynn dros y dinasoedd a'r trefi mawr tra bu i'r lluoedd gerila danseilio eu grym mewn ardaloedd gwledig a llwythol yn y gogledd a'r gorllewin. Fel rhan o'u hymateb i FRELIMO, dechreuodd llywodraeth Portiwgal roi mwy o sylw i greu amodau ffafriol ar gyfer datblygiad cymdeithasol a thwf economaidd.[15]

Annibyniaeth (1975)

[golygu |golygu cod]

Cymerodd FRELIMO reolaeth dros y diriogaeth ar ôl deng mlynedd o ryfela ysbeidiol. Ar yr un pryd trodd Portiwgal tuag at democratiaeth ei hun, ar ôl cwymp y gyfundrefn awdurdodaidd Estado Novo yn Chwyldro'r Carnasiwn ym Ebrill 1974 a'r coup aflwyddiannus ar 25 Tachwedd 1975. O fewn blwyddyn, roedd y rhan fwyaf o'r 250,000 o Bortiwgaliaid ym Mosambîc wedi gadael y wlad—rhai wedi'u halltudio gan lywodraeth y wlad lled-annibynnol, a rhai wedi gadael y wlad i osgoi dial posibl gan y llywodraeth newydd. Yn y diwedd, daeth Mosambîc yn annibynnol oddi wrth Portiwgal ar 25 Mehefin 1975. Roedd cyfraith wedi'i phasio o blaid FRELIMO, yn gorchymyn i'r Portiwgaliaid adael y wlad o fewn 24 awr gyda dim ond 20 cilogram (44 lb) o fagiau y person. Dychwelodd y rhan fwyaf ohonynt i Bortiwgal heb geiniog goch y delyn.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. https://www.citypopulation.de/en/mozambique/cities/.
  2. https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
  3. Barletta, Giulia; Ibraimo, Maimuna; Salvucci, Vincenzo; Sarmento, Enilde Francisco; Tarp, Finn (2022).The evolution of inequality in Mozambique. WIDER Working Paper (yn Saesneg). Helsinki: United Nations University World Institute for Development Economics Research.doi:10.35188/unu-wider/2022/284-3.ISBN 978-92-9267-284-3. Cyrchwyd31 March 2024.
  4. "Glottolog 4.7 – Languages of Mozambique".glottolog.org. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 10 January 2023. Cyrchwyd10 January 2023.
  5. M. D. D. Newitt (1972). "The Early History of the Sultanate of Angoche". The Journal of African History (Cambridge University Press) 13 (3): 398. doi:10.1017/S0021853700011713. JSTOR 180586. https://www.jstor.org/stable/180586. Adalwyd 14 July 2024.
  6. Lander, Faye; Russell, Thembi (2018). "The archaeological evidence for the appearance of pastoralism and farming in southern Africa" (yn en). PLOS ONE 13 (6): e0198941. Bibcode2018PLoSO..1398941L. doi:10.1371/journal.pone.0198941. PMC 6002040. PMID 29902271. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6002040.
  7. Lyaya, Edwinus Chrisantus."Metallurgy in Tanzania".ResearchGate. Cyrchwyd1 July 2022.
  8. Sinclair, Paul; Ekblom, Anneli; Wood, Marilee (2012). "Trade and Society on the Southeast African Coast in the Later First Millennium AD: the Case of Chibuene". Antiquity 86 (333): 723–737. doi:10.1017/S0003598X00047876. https://archive.org/details/sim_antiquity_2012-09_86_333/page/722.
  9. Rathee, D. (2021). "Hunt for Oil in Offshore Angoche, Mozambique". Fifth EAGE Eastern Africa Petroleum Geoscience Forum (European Association of Geoscientists & Engineers): 1–5. doi:10.3997/2214-4609.2021605026. http://dx.doi.org/10.3997/2214-4609.2021605026.
  10. Isaacman, Allen; Peterson, Derek (2006). "Making the Chikunda: Military Slavery and Ethnicity in Southern Africa, 1750–1900". In Brown, Christopher Leslie; Morgan, Philip D. (gol.).Arming Slaves: From Classical Times to the Modern Age. Yale University Press. tt. 95–119.doi:10.12987/yale/9780300109009.003.0005.ISBN 978-0-300-13485-8.
  11. 11.011.1Sheldon, Kathleen Eddy; Penvenne, Jeanne Marie. "Mozambique: Arrival of the Portuguese".Encyclopædia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd7 June 2021.
  12. Newitt, Malyn (2004). "Mozambique Island: The Rise and Decline of an East African Coastal City, 1500–1700". Portuguese Studies 20: 21–37. doi:10.1353/port.2004.0001. ISSN 0267-5315. JSTOR 41105216. http://www.jstor.org/stable/41105216. Adalwyd 7 June 2021.
  13. Isaacman, Allen; Peterson, Derek (2006). "Making the Chikunda: Military Slavery and Ethnicity in Southern Africa, 1750–1900". In Brown, Christopher Leslie; Morgan, Philip D. (gol.).Arming Slaves: From Classical Times to the Modern Age. Yale University Press. tt. 95–119.doi:10.12987/yale/9780300109009.003.0005.ISBN 978-0-300-13485-8.Isaacman, Allen; Peterson, Derek (2006).
  14. "piri piri | BOOK OF DAYS TALES".www.bookofdaystales.com. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 1 March 2021. Cyrchwyd28 January 2021.
  15. "CD do Diário de Notícias – Parte 08". 8 July 2007. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 17 March 2012. Cyrchwyd2 May 2010.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Mosambîc&oldid=14305307"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp