Y mwyaf o'rmorfilod, ac anifail mwyaf y byd, yw'rmorfil glas neuforfil asgellog glas (Balaenoptera musculus). Credir mai ef yw'r anifail mwyaf a fu erioed. Gall y rhai mwyaf gyrraedd hyd o tua 33 medr a phwysau o tua 170 tunnell. Mae tafod y morfil glas tua'r un fain ageliffant ac yn pwyso tua 2 dunnell.
Er gwaethaf ei faint, mae'n medru nofio'n gyflym, gan gyrraedd cyflymdra o 40 hyd 50 cilomedr yr awr. Maent yn bwydo arblancton, yn arbennigcril. Gall un morfil fwyta tua 3500 kg mewn diwrnod. Mae ei diriogaeth yn cynnwysCefnfor yr Iwerydd, yCefnfor Tawel,Cefnfor India aChefnfor y De. Erbyn tua dechrau'r20g roedd y rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu oherwydd fod cymaint ohonynt wedi eu dal. Erbyn hyn, mae'r rhywogaeth yn cael ei gwarchod, a chredir fod rhwng 5,000 a 12,000 ohonynt bellach.