Mont Blanc |
Math | mynydd, copa, pwynt uchaf, pyramidal peak, ultra-prominent peak  |
---|
|
Cylchfa amser | UTC+01:00  |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Rhan o'r canlynol | Y Saith Pegwn, drainage divide between the Adriatic and Mediterranean seas, y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal  |
---|
Sir | Chamonix, Saint-Gervais-les-Bains,Courmayeur  |
---|
Gwlad | Ffrainc
Yr Eidal |
---|
Uwch y môr | 4,805.59 metr  |
---|
Cyfesurynnau | 45.8328°N 6.865°E  |
---|
Cadwyn fynydd | Mont Blanc massif  |
---|
 |
Deunydd | gwenithfaen, gneiss  |
---|
|
|
Mont Blanc (Ffrangeg amMynydd Gwyn) yw'r mynydd uchaf yn yrAlpau a'r uchaf yng ngorllewinEwrop. (Yr uchaf yn Ewrop ywElbrus sy'n 5,642 m.) Ei enwEidaleg ywMonte Bianco.
Saif Mont Blanc ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal, ac mae cryn dipyn o ddadlau wedi bod ynglŷn â lleoliad y ffin ac ym mha wlad mae'r copa. Mae mapiau o Ffrainc yn tueddu i ddangos y copa yn Ffrainc, tra mae mapiau o'r Eidal yn dangos y ffin yn rhedeg dros y copa.
Mae union uchder y mynydd ym medru amrywio, oherwydd fod dyfnder o tua 10 - 15 medr o rew ac eira ar y copa. Mae mesuriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn amrywio rhwng 4,807 a 4,810 medr. Y ddwy dref bwysicaf wrth droed y mynydd ywChamonix ynHaute-Savoie yn Ffrainc, aCourmayeur yn yr Eidal. Maetwnnel 11 km dan y mynydd yn uno Ffrainc a'r Eidal.
Dechreuwyd yr ymdrechion i gyrraedd y copa gan Horace-Benedict de Sausure, a gynigiodd swm sylweddol o arian yn1760 i unrhyw un a allai ddarganfod llwybr i'r copa. Yn1786 dringwyd y mynydd am y tro cyntaf gan Jacques Balmat a Michel Paccard. Flwyddyn yn ddiweddarach gallodd de Sausure gyrraedd y copa ei hun.
Mae'r mynydd yn gyrchfan boblogaidd dros ben i dwristiaid, yn enwedig ar ochr Ffrainc. Daw llawer ohonynt i sgio ar lethrau'r mynydd, ond mae cryn nifer yn ei ddringo bob blwyddyn. Nid yw'n fynydd arbennig o anodd yn dechnegol, ond mae'r uchder a'r oerni yn creu problemau, a bob blwyddyn mae cannoedd o ddamweiniau difrifol ar Mont Blanc a'r mynyddoedd o'i gwmpas.