Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Monogram brenhinol

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf Bost K ynToronto yn arddangosEVIIIR uwchben ei brif fynedfa, monogram brenhinolBrenin Edward VIII
Blwch post ynWindsor,Berkshire, yn arddangos monogram brenhinolBrenin Edward VII.

Mewnherodraeth fodern, maemonogram brenhinol yn fonogram neu llythyrbleth sofran gwlad, sydd fel arfer yn cynnwys llythrennau cyntaf enw a theitl y brenin neu frenhines, weithiau wedi'u plethu ac yn aml yn cael eu gorchuddio â choron.[1] Os defnyddir monogram o'r fath gan ymerawdwr neu ymerodres, fe'i helwir yn fonogram ymerodrol. Yn y system a ddefnyddir gandeyrnas y Gymanwlad, talfyrrir y teitl i 'R' ar gyfer 'rex' neu 'regina' (Lladin am "brenin" a "brenhines"). Yn y gorffennol, defnyddir 'I' a oedd yn sefyll am 'imperator' neu 'imperatrix (Lladin am "ymerawdwr" ac "ymerodres") Ymerodraeth India.[2][3]

Mae monogramau brenhinol yn ymddangos ar rai o adeiladau'r llywodraeth, wedi eu pwyso ar ddogfennau brenhinol a gwladwriaethol, ac yn cael eu defnyddio gan adrannau'r llywodraeth.

Tiroedd y Gymanwlad

[golygu |golygu cod]

Mae'r defnydd o fonogram brenhinol yndeyrnas y Gymanwlad yn tarddu o'rDeyrnas Unedig, lle dechreuodd defnydd cyhoeddus o'r llythrennau cyntaf brenhinol yn ycyfnod Tuduriaid cynnar o leiaf. I ddechrau a dim ond llythyren gyntaf y sofran defnyddir, ond ar ôl teyrnasiadHarri'r VIII, ychwanegu'r llythyren'R' ar gyfer'Rex' neu'Regina'. Yna cafodd y llythyren'I' ei ychwanegu i fonogramy Frenhines Victoria ar gyfer'Imperatrix' ar ôl iddi ddod yn Ymerodres India ym 1877. Dangosir llythrennau cyntaf enw'r sofran (nad oedd ganddynt ddyluniad na ffurf benodol eto) fel arfer wrth ymyl yr arfbeisiau brenhinol neu'r goron, ar adeiladau'r brenin – megis rhai Harri VIII ar borthdyPalas Sant Iago. Mae'n ymddangos taw pwrpas hwn oedd gallu adnabod sofran unigol, gan fod yr arfbais frenhinol yn aml yn cael ei defnyddio gan nifer o frenhinoedd olynol.

Logo'rPost Brenhinol a ddefnyddir yn yr Alban. Yn ôl confensiwn a ddechreuodd ar ôl Coroni'rFrenhines Elisabeth ym 1953, ni ddangosir llythrennau cyntaf y sofran ar fonogramau yn yr Alban.

Er bod symbolau brenhinol yn wahanol ymhlith 16 teyrnas y Gymanwlad, (gan eu bod yn freniniaethau gwahanol), mae'r un sofran yn defnyddio'r un monogram ledled ei holl wledydd. Fodd bynnag mae gwahaniaeth rhwng monogram personol y sofran a' monogram cyhoeddus y sofran, sydd llawer symlach.

Monogram y frenhines bresennol ywEIIR, yn sefyll drosElisabeth II Regina.[4] Uwchben y llythrennau mae dyluniad oGoron Sant Edward. Yn yr Alban, o ganlyniad i ddadl dros deitl cywir y frenhines, a elwir y Brwydrau Blwch Post(Pillar Box Wars), ar ôl 1953 dim ond delwedd Coron yr Alban oedd yn ymddangos ar flychau post newydd yn hytrach na'r monogramEIIR. Mae pob gwlad a theyrnas arall y Gymanwlad yn defnyddio'r monogram.

Roedd cynhyrchu'r monogram yn gam cynnar yn y paratoadau ar gyfer coroni'r Frenhines ym 1953, oherwydd roedd rhaid ei frodio ar wisgoedd y Gweision y Frenhines ac ar bethau eraill.[5] Dyluniwyd monogramau ar gyfer aelodau eraill o'rteulu brenhinol ganGoleg yr Arfau neu Lys yr Arglwydd Lyon (yn yr Alban) ac yna fe'u cymeradwyir gan y frenhines.[6]

Defnyddir monogramau hyn gan Awdurdod Herodrol Canada yn ar faneri brenhinol Canada. Mae'r defnydd yng Nghanada o fonogram y brenin neu'r frenhines bresennol, sydd weithiau wedi'i amgylchynu'n gan goronbleth oddail masarn, yn symbol nid yn unig o'r sofran ei hun, ond sofraniaeth lawn Canada.[7] Mae hefyd i'w gael mewn swyddfeydd post a rhai o adeiladau'r llywodraeth ynAwstralia.

Mewn llefydd eraill

[golygu |golygu cod]

Mae tai brenhinol eraill hefyd wedi defnyddio monogramau brenhinol neu ymerodrol. Roedd gan y swltaniaid Otomanaidd lofnod caligraffig, eutughra. Mae pob brenin neu frenhines chwe brenhiniaeth arall Ewrop yn defnyddio monogramau, gyda choronau brenhinol uwchben y llythrennau. MaeBrenin Harald V o Norwy yn defnyddio'r llythyren H wedi'i chroesi gyda'r rhif Arabeg 5; mae'r Brenin Carl XVI Gustav oSweden yn defnyddio'r llythrennau C a G yn gorgyffwrdd â'r rhifolyn Rhufeinig XVI oddi tanynt; maeBrenin Felipe VI o Sbaen yn defnyddio'r llythyren F gyda'r rhif Rhufeinig; ac mae'r FrenhinesMargrethe II o Ddenmarc yn defnyddio'r llythyren M gyda'r rhif Arabeg 2 a'r llythyren R (ar gyfer Regina) oddi tani. MaeBrenin Philippe o Wlad Belg yn defnyddio'r llythrennau P ac F wedi'u cydblethu, gan gyfeirio at y ffaith mai Philippe yw ei enw ynFfrangeg, ond Filip yw ei enw ynIseldireg, y ddwy brif iaith yngNgwlad Belg. MaeBrenin Willem-Alexander o'r Iseldiroedd a'iFrenhines Maxima yn rhannu monogram sy'n cynnwys y llythyr W wedi'i phlethu â'r llythyr M. Mae'r BreninMaha Vajiralongkorn oWlad Thai yn defnyddio monogram sy'n cynnwys ei lythrennau cyntaf yn sgript Thai ("ว.ป.ร." VPR –Vajiralongkorn Parama Rajadhiraj, sy'n cyfateb iVajirarongkorn Rex).

Oriel

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. TheShorter Oxford English Dictionary (Fifth edition; 2002), Volume 1, p. 1820.
  2. Morley, Vincent."United Kingdom: Royal Navy". Flags Of The World. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-07-19. Cyrchwyd30 October 2009.
  3. Boutell, Charles; Wheeler-Holohan, V. (1931).Boutell's Manual of Heraldry. Detroit: F. Warne and Co. Ltd. t. 244. Cyrchwyd30 October 2009.
  4. "ROYAL CYPHER OF QUEEN ELIZABETH ll".The Morning Bulletin. 1952-07-18. t. 1. Cyrchwyd2021-04-27.
  5. "Vintage Reader's Digest 1953: Preparing to Crown a Queen - Reader's Digest".www.readersdigest.co.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2021-04-28. Cyrchwyd2021-04-27.
  6. Palmer, Richard (2009-01-07)."Prince Harry pays tribute to Diana with royal cypher".Express.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd2021-04-27.
  7. Cof Maples: Constitutional Monarchy in Canada(PDF) (yn English). Department of Canadian Heritage, Her Majesty the Queen in Right of Canada. 2008.ISBN 978-0-662-46012-1.CS1 maint: unrecognized language (link)
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Monogram_brenhinol&oldid=12949783"
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp