Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Tywysogaeth Moldofa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oMoldafia)
Tywysogaeth Moldofa
Delwedd:Coat of arms of Moldavia.svg, COA of Moldavia 1855.svg
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Moldova Edit this on Wikidata
PrifddinasIași, Suceava, Siret, Baia Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1346 (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwmaneg, Church Slavonic in Romania,Groeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Yn ffinio gydaY Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, Wallachia,Uchel Ddugiaeth Lithwania Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwadyr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol Edit this on Wikidata
Arianthaler Edit this on Wikidata

Tywysogaeth ynNwyrain Ewrop a fodolai am ryw bumcan mlynedd, o ganol y 14g i 1859, oeddTywysogaeth Moldofa neuMoldafia (Rwmaneg:Moldova neuȚara Moldovei). Lleolwyd yn rhanbarth isafAfon Donaw, rhwng mynyddoedd yCarpatiau i'r gorllewin acAfon Dniester i'r dwyrain. Ar ei hanterth, yn y 15g, roedd yn ffinio â'rMôr Du, ond am y rhan fwyaf o'i hanesgwlad dirgaeedig ydoedd.

Sefydlwyd Moldofa yn ystod hanner cyntaf y 14g gan Dragoș, pennaeth ar fyddin oFlachiaid a anfonwyd ganLajos I, brenin Hwngari, i wrthsefylly Llu Euraid. Tua 1349, disodlwyd Sas, mab Dragoș, gan y Tywysog Bogdan, a ddatganodd ei hun yn deyrn ar Foldofa, y tu hwnt i reolaethTeyrnas Hwngari. Byddai tywysogion Moldofa yn amddiffyn eu hannibyniaeth yn erbyn Hwngari aGwlad Pwyl, ac yn ehangu eu tiriogaeth i gynnwysBesarabia yn y dwyrain aBukovina yn y gogledd-orllewin. Llwydodd y Tywysog Ștefan III (Steffan Fawr; teyrnasai 1457–1504) i wrthsefyll goresgyniadau gan luoeddyr Ymerodraeth Otomanaidd, ond yn sgil ei farwolaeth gorchfygwyd Moldofa gan yr Otomaniaid a gorfodwyd i'w fab, y Tywysog Bogdan III (t. 1504–17) i dalu teyrnged i'rSwltan Bayezid II.

Erbyn canol yr 16g,gwladwriaeth gaeth i'r Ymerodraeth Otomanaidd ond yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth oedd Tywysogaeth Moldofa. Yn ystod y trichan mlynedd olynol byddai Moldofa dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid, ac ambell waith byddai'r tywysogion yn gwrthod awdurdod y Swltan, gan gynnwys gwrthryfel Ioan III (t. 1572–4) yn erbyn trethi uchel. Ym 1600 ceisiodd Mihai, TywysogWalachia, uno ei diriogaeth â Moldofa aThransylfania, ac o 1601 i 1618 cydnabuwyd penarglwyddiaeth Gwlad Pwyl gan dywysogion o frenhinllin y Movilești. Fodd bynnag, bu'r Otomaniaid yn goruchafu ar farchnadoedd Moldofa ac yn aml yn rheoli olyniaeth y tywysogion. Wedi 1711, dewiswyd y tywysogion o'rFfanariaid, sef y teuluoeddGroegaidd cefnog oGaergystennin.[1]

Daeth Moldofa fwyfwy dan ddylanwadYmerodraeth Rwsia yn y 18g. Collodd y dywysogaeth Bukovina i'rFrenhiniaeth Hapsbwrgaidd ym 1774, ac ildiodd Besarabia i Rwsia yn sgil Cytundeb Bwcarést (1812). Dymchwelwyd llywodraeth y Ffanariaid yn sgil gwrthryfel ym 1821, a daeth Moldofa dan reolaeth Rwsia yn sgil rhyfel rhwng Rwsia a'r Ymerodraeth Otomanaidd ym 1828–9. Cyflwynwyd cyfansoddiad yRegulamentul Organic (Statud Organig) gan Rwsia ym 1832. Wedi methiant y Rwsiaid ynRhyfel y Crimea (1853–56), cydnabuwyd Moldofa yn swyddogol fel gwladwriaeth awtonomaidd dan ben-arglwyddiaeth yr Otomaniaid. Ym 1859, unwyd Tywysogaethau Moldofa a Walachia ar ffurfRwmania.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) Moldavia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Mai 2022.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tywysogaeth_Moldofa&oldid=11524221"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp