Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Mislif

Oddi ar Wicipedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ardangos i weld y rhestr.
Rhestr
AIDS

Afiechyd meddwl
Alcoholiaeth
Annwyd
Anorecsia nerfosa
Asma
Syndrom Asperger
Awtistiaeth
Blinder meddwl
Brech goch
Brech ieir
Brech Wen
Briwiau'r geg
BSE
Cansar
Cen gwallt
Clefyd Alzheimer
Clefyd y galon
Clefyd y gwair
Clefyd y siwgr
Clunwst
Clwy'r marchogion
Clwy'r pennau
Clwyf y traed a’r genau
Colera
Creithiau
Croen gyda chraciau
Croen sensitif
Croen sych
Croenlid (Ecsema)
Cur pen
Cur pen eithafol
Cylchrediad y gwaed
Cymalau ystyfnig
Dafad (ar y croen)
Diffyg traul
Dolur annwyd
Dolur gwddw
Dolur rhydd
Yr Eryr
Ffibrosis systig
Ffliw
Ffliw adar
Gorguro’r galon
Gwahanglwyf
Gwlychu gwely
Gwynegon (Cricmala)
Gorguro’r galon
HIV
Iselder ysbryd
Liwcemia
Llau pen
Llais cryglyd
Llid y bledren
Llid y cyfbilenLlosg eira
Llosg haul
Llosgiadau
Malaria
Mislif afreolaidd
Mislif poenus
Mislif ysgafn
Nerfau
Niwmonia
Peswch
Pigyn clust
Plorod
Poliomyelitis
Poeni
Rwbela
Rhwymedd
Twymyn y gwair
Tyndra’r cyhyrau

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Newidiadau ffisegol o fewn yrorganau cenhedlu benywaidd ywmislif, ble mae'rgwain yn gwaedu bob tua 28 diwrnod, os na bubeichiogi yn y cyfamser. Mae tair rhan i'r broses yma. Yn gyntaf mae wal ygroth yn twchu, yn ail rhyddheirofwm (neu wy) ac yn olaf, mae wal y groth yn gadael y corff, gyda pheth gwaed. Mae lefelauhormonau'r corff yn codi ac yn gostwng yn aruthrol dros y cyfnod hwn, gan beri newidiadau yn nheimladau'r ferch.

Mae mislif yn medru bod yn boenus iawn.

Meddygaeth amgen

[golygu |golygu cod]

Defnyddir llysiau rhinweddol ers canrifoedd i wella'r boen mae'r ferch yn ei ddioddef.

  • Mislif afreolaidd:
Draenen wen (blodau),Hedyn moronen,Pig yr Aran,Rhosyn,Saets y waun
  • Mislif poenus:
Camri,Draenen wen (blodau),Penrhudd,Pig yr Aran,Rhosyn,Saets y waun
  • Mislif ysgafn:
Ffenigl,Merywen,Rhosyn,Saets y waun

Ffyrdd o ddelio gyda'r Mislif

[golygu |golygu cod]
Tampon

Mae menywod wedi gorfod delio gyda'r mislif erioed. Ers canol yr 20g dechreuwyd cynhyrchu a gwerthu adnoddau saffach a glanach fel ytampon. Mae'r tampon yn lân ac yn hawdd ei ddefnyddio (er bydd merched ifainc efallai'n cael trafferth i gychwyn). Gan fod y rhan fwyaf o tamponau yn cynnwysseliwlos ceir hefyd rhai dyfeisadau organig neu ail-ddefnydd er mwyn peidio effeithio ar yr amgylchedd ac i arbed arian yn yr hir-dymor i'r ddynes.

Gellir hefyd defnyddiocwpan mislif sydd yn casglu'r gwaed ac yna gellir golchi ac ail-ddefnyddio'r gwpan. Mae'r cwpan yn ddrytach i'w brynu y tro cyntaf (oddeutu £20) ond mae'r ffaith bod ei olchi ac ail-ddefnyddio yn arbed llawer o arian yn yr hir-dymor.

Effeithiau Meddygol y Mislif

[golygu |golygu cod]
Denyddiau mislif am ddim i'r cyhoedd ynLlyfrgell Tref Aberystwyth (2024)
  • Anhwylder Dysfforig cyn-Mislifol (Premenstrual dysphoric disorder,PMDD) - problem meddygol tebyg i Syndrom cyn-Mislifol,Premenstrual Syndrome (PMS) ond yn fwy difrifol. Mae'n gallu creu iselder difrifol, panic, hwyliau cyfnewidiol, diffyg cyd-gysylltiad, dicter, a diffyg cof. Mae'n cychwyn 10-14 diwrnod cyn y mislif ac yn dueddol o wella unwaith mae'r mislif yn dechrau. Gall fod yr effeithiau meddyliol yn digwydd oherwydd diffygseretonin yn y corff. Mae'n ffeithio 3-5% o fenywod sy'n cael y mislif er ei bod nifer o'i dioddefwyr yn derbyn diagnosis anghywir e.e. bipolar. Gellir bwyta bwyd gwyrdd, bwyd âmagnesiwm er mwyn ceisio lleddfu'r anhwylder.[1]

Termau

[golygu |golygu cod]

Yn hanesyddol, defnyddir y termmisglwyf yn Gymraeg - yn yBeibl er enghraifft[2]. Mae cofnodion o'r gairmislif o 1632 ymlaen,[3] a dyma'r term sy'n fwy poblogaidd bellach, ar y we o leiaf.

Mewn iaith bob dydd, defnyddiwyd llawer o dermau eraill oherwydd y tabŵ fu'n gysylltiedig â'r mislif. Yn Gymraeg, ceir "cwarfod misol[4]" a "pethau canu"[angen ffynhonnell] er enghraifft.

Dolenni

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. https://www.youtube.com/watch?v=HMLFt84YzK4&list=TLGGJn-dfhHHuS8xMTA3MjAyMA
  2. "Beibl (1620)/Lefiticus - Wicidestun".cy.wikisource.org. Cyrchwyd2020-11-03.
  3.  mislif. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  4. Rees, Mair (2014-07-15).Y Llawes Goch a'r Faneg Wen: Y Corff Benywaidd a'i Symbolaeth mewn Ffuglen Gymraeg gan Fenywod. University of Wales Press. t. 135.ISBN 978-1-78316-125-6.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Mislif&oldid=12638355"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp