Gorwedd Minusinsk yng nghanolPant Minusinsk, sy'n ardal o ddiddordeb archaeolegol mawr a gysylltir a diwylliannau cynhanesyddolAfanasevo,Tashtyk, aTagar - i gyd yn cael eu henwi ar ôl pentrefi ger Minusinsk.
SefydlwydMinyusinskoye (Минюсинское) yn y cyfnod 1739-40 ar gymer Afon Minusa yn Afon Yenisei. Newidiodd yr enw iMinusinskoye (Минусинское) yn 1810.[1]
Erbyn 1822, roedd Minusinsk wedi datblygu yn ganolfan ffermio a masnach ranbarthol a chafodd statws tref. Yn ystod y 19g daeth yn ganolfan ddiwyllianol i ardal eang o'i chwmpas. Agorodd Amgueddfa Hanes Natur Martyanov yno yn 1877.[1] Mae'n dal yn agored ac yn weithgar heddiw. Denai'r dref a'r ardal artistiaid Rwsiaidd hefyd, er enghraifft y paentiwrVasily Surikov.
Yn nes ymlaen, daeth y dref a'i hamgueddfa yn noddfa ymenyddol i weithredwyr gwleidyddol a chwyldroadwyr a alltudwyd o Rwsia Ewropeaidd yn y 1880au. ArferaiVladimir Lenin ymweld â Minusinsk yn rheolaidd pan oedd mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref cyfagosShushenskoye o 1897 hyd 1900.