Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Migwrn

Oddi ar Wicipedia
Migwrn
Enghraifft o:dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathfree lower limb segment, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewnanatomi dynol, ymigwrn (neuffêr,pigwrn,swrn) ydy'rcymal colfach sydd rhwng ygrimog (neugroth y goes) a'rdroed. Yr un tarddiad o'r Gelteg *kornu ‘corn’ sydd i ddiwedd y gairmigwrn a'r geiriau eraillasgwrn,cogwrn allosgwrn.

Cefnblygiad (uchod) a gwadnblygiad (isod) y droed diolch i brif gymal y migwrn

Dyma ble mae esgyrn ytibia (asgwrn crimog) a'rffibwla yn y goes yn cysylltu â'rtalws (asgwrn ffêr) yn y droed. I fyny ac i lawr yn unig mae'r cymal talocrural yn caniatau ei ymsymud; fe'i defnyddir pan rydym yn cerdded (cefnblygiad) a phan rydym yn sefyll ar flaenau'r traed (gwadnblygiad).

Gwrthdroad (chwith) ac echdroad (dde) y droed diolch i'r ddau gymal arall

Mewn ystyr ehangach, fodd bynnag, mae'r gairmigwrn yn cyfeirio nid yn unig at y cymal talocrural ond at yr ardal hwnnw'n gyffredinol. Mewn gwirionedd, mae'r ardal yma yn cynnwys tri chymal ar wahân a phedwargewyn. Ceir y gewyndeltoid ynghyd â thri gewyn ochrol: y gewyn blaen taloffibiwlar, gewyn ôl taloffibiwlar a'r gewyn calcaneoffibiwlar. Mae'r ddau gymal arall - h.y. y cymal subtalar a'r cymal tibioffibwlar isaf - yn caniatáu i'r droed ymsymud o ochr i ochr, h.y. tuag at allan (echdroad) a tuag at i mewn (gwrthdroad).

Ysigiad y migwrn gyda throed chwyddedig. Mae pwysau aruthrol ar y migwrn a cheir llawer o broblemau mewn chwaraeon megissboncen.

Oherwydd fod holl bwysau'r corff yn cael ei grynhoi mewn dau le bach, ceir llawer o broblemau, yn enwedig mewnchwaraeon; yr hyn a ddywedir, fel arfer, yw bod rhywun wedi ‘troi’ (h.y. ysigo) ei droed.

Chwiliwch ammigwrn
ynWiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod amanatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Migwrn&oldid=11048901"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp