Ers y1920au, mae metadata'n cyfeirio at ffurfiau digidol, ond gellir dweud fod cardiau gyda chofnodion a sgwennwyd gyda llaw hefyd yn cynnwys metadata. Yn aml, defnyddid y rhain i gofnodi enwau llyfrau mewnllyfrgell: awdur, pwnc, ISBN ayb.
Gwybodaeth ar ffurfdata sy'n ein goleuo mewn rhyw fodd a sy'n cysylltu â data arall ywmetadata, h.y. data cysylltiedig.[1] Ceir gwahanol fathau o fetadata, gan gynnwys metadata disgrifiadol, metadata strwythurol, metadata gweinyddol, metadata cyfeiriol a metadata ystadegol.[2][3]
Daw'r rhagddodiadmeta o'rGroegμετά- sef "wedi" neu "ar ôl", ond o fewngwybodeg gall olygu "ynglŷn â..." h.y. gellir diffinio metadata fel "data sy'n rhoi gwybodaeth ynglŷn â data arall; data am ddata.
Metadata disgrifiadol - y ddau brif bwrpas i fetadata disgrifiadol yw darganfod ac adnabod e.e. allweddeiriau (keywords), enw'r awdur, testun disgrifiadol, dyddiadau geni.
Metadata strwythurol - mae metadata strwythurol yn disgrifio cynwysyddion data, a sut y mae gwrthrychau cyfansawdd yn cysylltu â'i gilydd e.e. sut y mae tudalennau'n cael eu grwpio bob yn bennod.
Metadata gweinyddol - mae metadata gweinyddol yn disgrifio mathau, fersiynau a pherthynas deunydd digidol.[4]
Metadata gweinyddol - sy'n cynorthwyo'r gwaith o reoli'r adnodd, e.e. sut a pha bryd y cafodd ei greu, math o ffeil, gwybodaeth technegol tebyg a phwy sydd a'r hawl i gael mynediad iddo.[5]
Metadata cyfeiriol - sy'n cyfeirio at gynnwys a dibynadwyedd y data ystadegol.
Metadata ystadegol - gall hwn hefyd ddisgrifio'r prosesau sy'm casglu, yn prosesu neu'n cynhyrchu data. Gellir hefyd ei alw'n "brosesu data".[6]
Galldelwedd ('llun ffotograffig') gynnwys metadata sy'n disgrifio pa mor fawr yw'r ddelwedd, dyfnder y lliwiau,cydraniad, pa bryd y crewyd y llun, cyflymder y caead ayb.[7] Mae'r rhain, fel arfer yn anweledig, oni bai fod y person yn chwilio amdanynt drwy edrych ar briodweddau'r ffeil.
Gall testun mewn dogfen megisLibreOffice Writer neuNotepad gynnwys llawer o fetadata: pa mor hir yw'r ddogfen, sawl gair sydd yn y testun, pa bryd y sgwennwyd y testun, pwy yw'r awdur, crynodeb o'r ddogfen ayb. Mae dalennau gwe hefyd yn cynnwys metadata, ac fel arfer yn cynnwys allweddeiriau cudd, ar gyfer yporwyr.[8]
Hyd at y1980au, cardiau papur oedd mewn llyfrgelloedd i ddal gwybodaeth am lyfrau, cyn iddynt droi at dduliau digidol wrth igyfrifiaduron gryfau o ran pwer a dod yn fwy poblogaidd. Yn y2000au crewyd safonau er mwyn rheoli'r data digidol newydd, a sut i sicrhau ei fod yn gywir ac yn saff; erbyn y2010au, roedd gan ddisgyblaethau gwahanol safonau unigryw, ar wahân e.e. amgueddfeydd, gwefannau, ffeiliau sain digidol.
Canolfan Gwybodaeth RyngwladolMIT a ddefnyddiodd y term "metadata" am y tro cyntaf, hyd y gwyddys, a hynny gan David Griffel a Stuart McIntosh yn 1967, er na chyplyswyd y ddau air yn ei gilydd i greu gair cyfansawdd.[9][10]
↑Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 966: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
↑Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 981: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
↑Dyfyniad o waith David Griffel a Stuart McIntosh yn 1967:"In summary then, we have statements in an object language about subject descriptions of data and token codes for the data. We also have statements in a meta language describing the data relationships and transformations, and ought/is relations between norm and data."