Israniad o linell amser ddaearegol ym maesdaeareg yw'rgorgyfnodMesosöig a amcangyfrifir ei fod rhwng 251-66 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Caiff hefyd ei alw'nOes yr Ymlusgiaid, ymadrodd a ddefnyddiwyd gyntaf yn y19g gan yPaleontolegydd Gideon Mantell a gredodd fod y gorgyfnod Mesosöig wedi'i ddomineiddio ganymlusgiaid fel yrIgwanodon, yMegalosawrws a'rPlesiosawrws a'r hyn a elwir heddiw ynPseudosuchia.[1]
Yn ystod y gorgyfnod Mesosöig ffurfiwyd ycyfandiroedd - o un tamed o dir a elwir ynPangaea.
Nodir man cychwyn y Mesosöig gan ddifodiad aruthrol (a elwir weithiau: "Y Marw Mawr", neu'n P–Tr) pan daeth 96% o holl rywogaethau morol i ben a 70% o rywogaethau tirol.[2] Oherwydd y collwyd cymaint o rywogaethau'r Ddaear (57% o bobteulu ac 83% o bobgenws, araf iawn yr adferwyd bywyd ar y Ddaear.[3] Yn ystod y Mesosöig gwelwyd y gweithgareddautectonig cyntaf, newid aruthrol yn yr hinsawdd a chynydd mewnesblygiad. Bu'r gorgyfnod hwn hefyd yn dyst i hollti'r tamed o dir a elwir yn Pangaea a chreucyfandiroedd.
Tarddiad y gair "Mesosöig" yw'rHen Roegmeso- (μεσο-) sef "rhwng" azōon (ζῷον) sef "anifail" neu "rywbeth byw".[4] Ei ystyr felly yw "bywyd yn y canol".