Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Meicroffon

Oddi ar Wicipedia
Meicroffon deinamig Sennheiser

Troswr sy'n troi sain yn signal electronig ywmicroffon, sydd hefyd yn cael ei alw ynmeic.[1]

Mae meicroffonau yn cael eu defnyddio mewn nifer o ddyfeisiadau felteleffonau, cynorthwywyr clyw, systemau cyfarch y cyhoedd ar gyfer neuaddau cyngerdd a digwyddiadau cyhoeddus, cynyrchiadauffilm, peirianyddiaeth sain yn fyw ac wedi'i recordio, recordio sain, radios dwy ffordd, megaffonau, darlledu radio atheledu, ac mewn cyfrifiaduron ar gyfer recordio llais, adnabod llais, VoIP, ac ar gyfer dibenion an-acwstig fel synhwyryddion uwch-sonig a synhwyryddion cnoc.

Mae nifer o wahanol fathau o feicroffonau i'w cael, sy'n defnyddio gwahanol ddulliau i drosi amrywiadau mewn pwysedd aersain yn signal electronig. Y mwyaf cyffredin yw'r meiroffon deinamig, sy'n defnyddio torch o wifren mewn maes magnetig; meicroffon cyddwysol, sy'n defnyddio'r deiaffram sy'n digrynu fel platcynhwysiant trydanol, a'r meicroffon piezoelectrig, sy'n defnyddio crisial o ddeunydd piezoelectrig. Mae fel arfer angen cysylltu meicroffonau i ragfwyhäwr cyn y gall signal gael ei recordio neu atgynhyrchu.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Zimmer, Ben (29 Gorffennaf 2010)."How Should 'Microphone' be Abbreviated?".The New York Times. Cyrchwyd10 Medi 2010.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Meicroffon&oldid=11023987"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp