Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Meddyginiaeth

Oddi ar Wicipedia
Meddyginiaeth
Mathcyffur, medicinal product Edit this on Wikidata
Rhan opharmacy Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/018l35 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF846 edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sylwedd cemegol a ddefnyddir mewndiagnosis,iachâd,triniaeth, neu iatalclefyd ywmeddyginiaeth,moddion neuffisig (hefydcyffur meddyginiaethol neugyffurfferyllol).

Defnyddir ySystem Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol (ATC), a reolir gan Ganolfan GydweithiolCyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) dros Fethodoleg Ystadegau Cyffuriau, i ddosbarthu cyffuriau meddyginiaethol ers 1976.

Meddyginiaethau traddodiadol ac amgen

[golygu |golygu cod]
Prif:Llysiau rhinweddol
  • Ffisig ysgall

Hawdd iawn yw anghofio cymaint oedd ein cyndeidiau yn dibynnu ar feddyginiaethau llysieuol tan yn gymharol ddiweddar:

13th. I continue taking the Elixir thrice this day, in the morn - fasting, at Noon, and 5 in the Evening, from 30 to 40 drops at a time, & drink a pint and a half of Carduus [hwn yw’r gair Lladin am ysgall]Whey hot every night going to bed.[1]
  • Opiwm

Syndod efallai yw gweld cyfeiriadau mynych at laudenum yng nghefn gwlad Cymru (opiad neu gyffur cysgu yn seiliedig ar y pabi ac yn cael ei ddefnyddio llawer yn Oes Fictoria yw hwn) ac ‘obadildo’ (beth bynnag oedd hwnnw!) yng nghefndyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron ar gyfer y flwyddyn 1897.[2]
Arferai’r beirdd gymryd laudenum i hybu’r awen - beirdd felSamuel Taylor Coleridge. Cafodd Coleridge ei styrbio ynghanol cyfansoddi ei gerdd enwogKubhla Khan dan ddylanwad y cyffur hwn ac erbyn iddo ddychwelyd at y gwaith roedd yr awen wedi diflannu. Bu hen regi mae’nsiŵr!
Sylwodd Brenda Jones, trawsgrifydd dyddiaduron William Jones, bod ei ysgrifen wedi mynd yn flêr o Chwefror ymlaen[1]. Effaith y ‘cyffuriau’ hyn o bosib?

  • Moddion at anhwylderau eraill

Mae William Jones yn nodi moddion i wella anhwylderau:

  • Cymhorth i wella Ffliw Rwsia
Ammoniated tincture of quinine ½ oz
Essence of Peppermint ¼ oz
Bromide of ammonium ½ oz
Spirit of sweet nitre ½ oz
Simple syrup made by boiling 1 lb lump sugar in half peint of water 1oz
Ysgydwer y cymysgedd yn achlysurol hyd nes byddo y cyfan wedi toddy Cymerer llond llwy de mewn dwy lond llwy fwrdd o ddwfr oer bob awr hyd nes cael rhyddhad Prysurir y gwellhad drwy ysbrinclo ychydig o menthol crystals ar lwy ar shovel boeth a thynu yr ager i fewn gyda’r anadl (1891).


Yn ôl hysbyseb yn ei ddyddiadur, dyma oedd ar gael at anhwylderau yn 1880:[3]

  • Cynghor at y Gravel
½ oz Balsam Cabtinty
½ oz Tincture Rubarb
1 oz Spirit Nitre
Dwy lond llwy de dair gwaith yn y dydd mewn llond glass gwin o lefrith.


Mathau

[golygu |golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch ammeddyginiaeth
ynWiciadur.
  1. Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)
  2. Dyddiadur William Jones, yn Nhywyddiadur Llên Natur
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 58
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Meddyginiaeth&oldid=11036564"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp