MaeMecsico Newydd (Saesneg:New Mexico,Sbaeneg:Nuevo México,Nafacho:Yootó Hahoodzo) yn dalaith yn ne-orllewin yrUnol Daleithiau, sy'n gorwedd ar y ffin âMecsico. Ceir tair prif ardal ddaearyddol: llwyfandir gwastad yn y dwyrain, ardal fynyddig yn y canol a dorrir ar ei thraws ganAfon Grande, ac ardal gymysg o fynyddoedd a gwastadiroedd yn y gorllewin. Mae'r trefi a dinasoedd yn gymharol brin a'r boblogaeth i'w cael yn bennaf yn y dinasoedd mawr felAlbuquerque. Roedd Mecsico Newydd ym meddiantSbaen yn yr17g ond roedd dan reolaeth Mecsico pan gafodd ei chipio gan yr Unol Daleithiau yn1848. Ni ddaeth yn dalaith tan1912, a hynny ar ôl cyfres o ryfeloedd yn erbyn yrApaches aNavajo brodorol a chyfnod o ansefydlogrwydd nodweddiadol o'r "Gorllewin Gwyllt". Bu rhaid wrth 25 mlynedd ar ôlRhyfel Cartref America i'r llywodraeth ynWashington fedru sefydlu ei hawdurdod dros y pobloedd brodorol a'r ymsefydlwyr gwyn fel ei gilydd. Cychwynodd hyn yn1864 pan gafodd y Navajo eu gorfodi i wneud y "Daith Hir" i wersyllBosque Redondo. Cafodd yr Apache eu symud i amryw wersyll ac ni ddaeth ddiwedd i'rRhyfeloedd Apache tan i'r pennaethGeronimo a'i fand bach o ffyddloniaid ildio o'r diwedd yn1886.