Credir fod y Maya wedi datblygu diwylliant unigryw erbyn tua 2000 CC yn ySierra de los Cuchumatanes yng ngorllewin Guatemala. Nid yw'n eglur ymhle roedd y ffin rhwng y Maya a'u cymdogion, yrOlmec yn y cyfnod hwnnw. Ceir adeiladau yn dyddio o'r3 CC ynCival yn Guatemala. Yn ddiweddarach, datblygodd dinasoedd enwogTikal,Palenque,Copán aCalakmul.
Seilid y diwylliant ar amaethyddiaeth ddatblygedig. Ymhlith yr olion maepyramidau a phalasau. Ystyrir eu cerfluniau o'r cyfnod clasurol (tua200-1200) ymhlith celfyddyd orau y cyfandir. Roedd eu hysgrifen yn dilyn egwyddor debyg i ysgrifen hieroglyffigyr Hen Aifft.
Dechreuodd diwylliant y Maya ddirywio o'r8g ymlaen, gyda nifer o ddinasoedd yn mynd yn anghyfannedd. Ceir rhywfaint o dystiolaeth archaeolegol am ryfeloedd yn y cyfnod hwn. Parhaodd y diwylliant arbenrhyn Yucatán ac ucheldiroedd Guatemala. Ymhlith dinasoedd enwog Yucatán roeddChichén Itzá,Uxmal,Edzná aCobá. Yn ddiweddarach, daeth dinasMayapan i reoli'r Yucatán, hyd nes bu gwrthryfel yn ei herbyn yn1450.