Gwobr Ffiseg Nobel, Adlerschild des Deutschen Reiches, Medal Max Planck, Gwobr Goethe, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Lorentz Medal, Harnack medal, Medal Helmholtz, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Medal Liebig, Medal Franklin, doethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Genedlaethol Kapodistrian, Athen, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Honorary doctor of the Technical University of Berlin, Guthrie Lecture, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol
Ganwyd ynKiel, a hanai Planck o deulu dawnus; roedd nifer o aelodau o'r teulu wedi gwneud gwaith ymchwil mewn amryw o feysydd academaidd. Roedd ei dad yn athro coleg yn y gyfraith. Pan oedd Planck yn llanc symudodd y teulu iMünchen yn dilyn penodiad ei dad yn athro yn y coleg.
Dechreuodd Planck astudio ffiseg yn München yn 1874, gan raddio'n athro yn 1878. Derbyniodd radd doethur yn 1879 a gradd uwch-ddoethurPrivatdozent yn 1880.
Yn 1885 penodwyd Planck yn athro cyswllt (heb gadair) ym maes Ffiseg Damcaniaethol yn Göttingen. Yn 1889 fe'i penodwyd yn athro (gyda chadair) ynBerlin.
Yn1900 darganfu Planck ddeddfau pelydriad thermol a thrwy'r gwaith hwnnw lluniodd y ddamcaniaeth cwantwm. Derbyniodd yWobr Nobel ar gyfer Ffiseg yn1918 ar sail ei waith ar y ddamcaniaeth cwantwm. Bu'n meithrin doniauAlbert Einstein, gan ddechrau yn1905, ond yn wahanol i Einstein, arhosodd yn yr Almaen yn ystod cyfnod y Natsïaid.