Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Max Born

Oddi ar Wicipedia
Max Born
Max Born ym 1954.
Ganwyd11 Rhagfyr 1882 Edit this on Wikidata
Wrocław Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1970 Edit this on Wikidata
Göttingen Edit this on Wikidata
Man preswylGöttingen,Caeredin,Wrocław,Caergrawnt, Bad Pyrmont Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen,y Deyrnas Unedig,Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Carl David Tolmé Runge Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd,mathemategydd, academydd, academydd, awdur ffeithiol, ffisegydd damcaniaethol, gwyddonydd Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amprobability amplitude, Born-Oppenheimer approximation Edit this on Wikidata
TadGustav Born Edit this on Wikidata
MamMargarethe 'Gretchen' Kauffmann Edit this on Wikidata
PriodHedwig Born Edit this on Wikidata
PlantGustav Victor Rudolf Born, Irene Helen Käthe Born Edit this on Wikidata
PerthnasauOlivia Newton-John, Max Born Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Croes Uwch Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen,Gwobr Ffiseg Nobel, Medal Max Planck, Medal Hughes, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Guthrie Lecture, Makdougall Brisbane Prize, honorary doctor of the University of Bordeaux Edit this on Wikidata
llofnod

FfisegwrAlmaenig oeddMax Born (11 Rhagfyr18825 Ionawr1970) sydd yn nodedig am ei waith ym maesmecaneg cwantwm. EnilloddWobr Ffiseg Nobel (ar y cyd âWalter Bothe) ym 1954 "am ei ymchwil sylfaenol ym mecaneg cwantwm, yn enwedig ei ddehongliad ystadegol o'rtonffwythiant".[1]

Ganed ef yn Breslau,Ymerodraeth yr Almaen (bellachWrocław,Gwlad Pwyl), i deuluIddewig. Derbyniodd ei addysg gynradd yn y cartref am iddo ddioddef o afiechyd. O'r diwedd mynychodd y gymnasiwm lleol cyn astudio ffiseg amathemateg ym mhrifysgolionBreslau,Heidelberg,Zürich, aGöttingen. Wedi iddo gyflawni ei draethawd ymchwil ar bwnc sefydlogrwydd gwifrau elastig, derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Göttingen ym 1907. Gwasanaethodd yn y fyddin am ychydig fisoedd ac ymwelodd âPhrifysgol Caergrawnt i weithio gyda'r ffisegwyrJoseph Larmor aJ. J. Thomson. Dychwelodd i Breslau ym 1908–09 i astudiodamcaniaeth perthnasedd arbennigAlbert Einstein.[2]

Gwahoddwyd Born yn ôl i Göttingen ar gyfer swydd gynorthwyol i'r ffisegwr mathemategolHermann Minkowski, ac ym 1915 fe'i penodwyd yn athro, dan gyfarwyddiaethMax Planck, ymMhrifysgol Berlin. Fodd bynnag, cafodd ei alw yn ôl i'r fyddin yn ystody Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1919 fe'i penodwyd yn athro llawn ymMhrifysgol Frankfurt am Main, ac ym 1921 yn athroffiseg ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Göttingen. Dan arweiniad Born a'i gyfoeswrJames Franck (a benodwyd yn athroffiseg arbrofol yno y flwyddyn gynt), daeth y brifysgol yn ganolfan i ymchwilffiseg atomig amoleciwlaidd. Gosodai Born sail i ddamcaniaeth foderndynameg dellt, a chyda chymorthWerner Heisenberg aPascual Jordan fformiwleiddiodd hanfodion mecaneg cwantwm yn nhermau'rmatrics. Ym 1926 cyflawnodd Born ddwy erthygl yn ymwneud ag hafaliadSchrödinger, ac yn dod i'r casgliad y gellir dehongli'r tonffwythiant yn nhermau'r tebygolrwydd o ganfodgronyn mewn man penodol ac ar amser penodol, y darganfyddiad a enillai'r Wobr Nobel iddo 28 mlynedd yn ddiweddarach.

Dan lywodraethyr Almaen Natsïaidd, diswyddwyd yr holl academyddion Iddewig ar draws y wlad yn Ebrill 1933, ac felly aeth Born a'i deulu yn alltud i Loegr. Yno, derbyniodd swydd dros dro yn darlithio yng Nghaergrawnt. Symudodd i'r Alban ym 1936 i gymryd swydd Athro Athroniaeth Naturiol Tait ymMhrifysgol Caeredin. Derbyniodd ddinasyddiaeth Brydeinig ym 1939, ac arhosodd yng Nghaeredin nes ymddeol ym 1953. Y flwyddyn olynol, dychwelodd gyda'i wraig iOrllewin yr Almaen, a bu farw Max Born yn Göttingen ym 1970 yn 87 oed.[2]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Physics 1954",Sefydliad Nobel. Archifwyd o'rdudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Mai 2023.
  2. 2.02.1(Saesneg) Max Born. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mai 2023.

Darllen pellach

[golygu |golygu cod]
  • Nancy Thorndike Greenspan,The End of the Certain World: The Life and Science of Max Born (Chichester, Gorllewin Sussex: Wiley, 2005).
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Max_Born&oldid=12873728"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp