Mathonwy Hughes
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu / allforio
Mewn prosiectau eraill
Mathonwy Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 24 Chwefror 1901 ![]() Llanllyfni ![]() |
Bu farw | Mai 1999 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, golygydd ![]() |
Cysylltir gyda | Y Faner ![]() |
Perthnasau | R. Silyn Roberts ![]() |
Bardd a llenor Cymraeg oeddMathonwy Hughes (24 Chwefror1901 - Mai1999). Ganed ef ym mhlwyfLlanllyfni yngNgwynedd, yn fab i chwarelwr, Joseph Hughes, a'i wraig Ellen. RoeddRobert Roberts (Silyn) yn ewythr iddo.
Yn saith oed aeth i Ysgol Gynradd Nebo ond bu'n wael, yn rhy wael i fynychu Ysgol y Sir ymMhen-y-groes; ond cafodd fynd i'r ysgol yngNghlynnog - siwrnai o 10 milltir ar droed.[1]
Bu'n olygydd cynorthwyolBaner ac Amserau Cymru o1949 hyd1977. Fel ei ewythr, bu'n weithgar iawn gydaMudiad Addysg y Gweithwyr. Enillodd ygadair ynEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956 am ei awdl ysgafnGwraig, a chyhoeddodd nifer o gasgliadau o farddoniaeth ac ysgrifau.