Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Mathemateg bur

Oddi ar Wicipedia
Darlun o 'baradocs Banach-Tarski', darganfyddiad enwog mewn mathemateg pur. Er ei bod wedi'i brofi ei bod hi'n bosib trosi unsffêr yn ddau gan ddefnyddio dim ond toriadau a'u cylchdroi, mae'r trawsnewid yn cynnwys gwrthrychau na all fodoli yn y byd ffisegol, real.

Y rhan honno oFathemateg sy'n studiaeth o gysyniadau hollol haniaethol, heb ystyried sut i'w cymhwyso nhw, ywmathemateg bur. Fe'i hadnabyddir fel un o ddwy gangen o fewn mathemateg ers y19g, pan sylweddolwyd ei bod yn wahanol ifathemateg gymhwysol a oedd yn datblygu i gyrraedd dibenion ymarferol yn ymwneud âhyd,arwynebedd achyfaint mewnfforio,seryddiaeth,ffiseg apheirianneg.

Cred eraill nad yw mathemateg bur o reidrwydd yn fathemateg gymhwysol: mae'n bosibl astudio endidau haniaethol mewn perthynas â'u natur gynhenid heb boeni sut maen nhw'n amlygu yn y byd go iawn. Er bod y safbwyntiau pur a chymhwysol yn safleoedd athronyddol gwahanol, yn ymarferol mae llawer o orgyffwrdd rhyngddynt.

Hyd y19g, ni wahaniaethwyd rhyw lawer rhwng y gwahanol fathau o fathemateg, ond fe ddatblygodd mathemateg bur fel maes annibynnol yng ngwaith Karl Weierstrass arddadansoddi aBertrand Russell yn yr20g. Cyn y 19g gelwid y ddisgyblaeth hon yn "fathemateg rhagfynegiol" (speculative mathematics).[1]

I ddatblygu modelau cywir ar gyfer disgrifio'r byd go iawn, mae llawer o fathemategwyr cymwys yn tynnu ar offer a thechnegau sy'n aml yn cael eu hystyried yn fathemateg "bur". Ar y llaw arall, mae llawer o fathemategwyr pur yn tynnu ar ffenomenau naturiol a chymdeithasol fel ysbrydoliaeth ar gyfer eu hymchwil haniaethol.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Roedd mathemategwyr hynafolGroeg ymhlith y cynharaf i wneud gwahaniaeth rhwng mathemateg pur a chymhwysol. Helpodd Plato i greu'r bwlch rhwng "rhifyddeg", a elwir bellach yn "theori rhif", a "logisteg", a elwir heddiw yn "rhifyddeg".

Ar ddechrau'r20g, fe fabwysiadodd mathemategwyr y dullgwirebol (Axiomatic method), dan ddylanwadDavid Hilbert (1862–1943) ac eraill. Edrychodd y damcaniaethau hyn yn fwyfwy rhesymol, wrth i waithBertrand Russell acAlfred North Whitehead osod llawer o fathemateg ar y sylfaen hwn.

Israniadau o fewn y ddisgyblaeth

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Gweler gwaithThomas Simpson yn ystod canol y18g:Essays on Several Curious and Useful Subjects in Speculative and Mixed Mathematicks,Miscellaneous Tracts on Some Curious and Very Interesting Subjects in Mechanics, Physical Astronomy and Speculative Mathematics.[1]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Mathemateg_bur&oldid=10881183"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp