| Martin McGuinness | |
|---|---|
| Ganwyd | Martin Pacelli McGuinness 23 Mai 1950 Derry |
| Bu farw | 21 Mawrth 2017 o amyloidosis Altnagelvin Area Hospital |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Minister of Education, Dirprwy Brif Weinidog, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 5th Northern Ireland Assembly, Member of the 4th Northern Ireland Assembly, Member of the 3rd Northern Ireland Assembly, Member of the 2nd Northern Ireland Assembly, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly |
| Plaid Wleidyddol | Sinn Féin |
| Gwefan | https://www.thepeoplespresident.ie/ |
Gwleidydd a chenedlaetholwrSinn Féin oeddJames Martin Pacelli McGuinness,Gwyddeleg:Máirtín Mag Aonghusa[1] (23 Mai1950 -21 Mawrth2017) a oedd o fai 2007 hyd at Fawrth 2017 yn Ddirprwy Brif WeinidogGogledd Iwerddon.
Ganed Martin McGuinness ynDerry.
Bu'nAelod Seneddol dros etholaeth Canol Ulster, hen seddBernadette Devlin McAliskey, drosSinn Féin, rhwng 1997 a 2013, ond yn unol a pholisi ei blaid, ni lanwodd ei sedd ynSan Steffan. Cafodd ei ethol i Gynulliad Gogledd Iwerddon dros Ganol Ulster yn 1998 a chynrychiolodd yr etholoaeth honno yn y Cynulliad tan 2016. Yn 2016 safodd dros etholaeth Foyle, ei etholaeth enedigol - a bu'n cynrychioli'r etholaeth honno hyd at ei farwrolaeth yn 2017.
Cyn troi'n wleidydd bu'n un o arweinyddion yrIRA[2]. Yn dilynCytundeb St Andrews rhwng y pleidiau yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiadCynulliad Gogledd Iwerddon yn 2007, daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog ar8 Mai 2007. Bu'n gyfrifol am addysg yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1999 a 2002.
(Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon ydy'rProvisional IRA)
Ymunodd McGuinness â'r Fyddin Weriniaethol oddeutu 1970, yn ddim ond 20 oed. Erbyn Gwanwyn 1972, yn 21 oed, roedd yn ddirprwy arweinydd yr IRA yn Derry - a hynny dros gyfnod 'Bloody Sunday'.[3] Cafwyd datganiad yn ystodYmchwiliad Savile mai McGuinness oedd "wedi darparu dyfeisiau ffrwydro yn ystod digwyddiad 'Bloody Sunday'" pan laddwyd 14 o brotestwyr gan filwyr Lloegr. Honodd Paddy Ward ei fod yn arweinydd yFianna ar yr amser honno, sef adain ieuenctid yr IRA yn 1972. Mewn ymateb i'r honiadau hyn, dywedodd McGuinness fod yr honiadau'n "ffantasiau", a datganodd Gery O'Hara, cynghorydd gyda'r Sinn Féin, mai ef ac nid Ward oedd arweinydd y Fianna yr adeg honno.[4]
Cynhaliwyd yr etholiad ar 2 Mawrth 2017. Yn gefndir i hyn roeddRefferendwm Brexit, pan bleidleisiodd mwyafrif pobl Gogledd Iwerddon dros aros yn yr UE. Galwyd yr etholiad yn dilyn ymddiswyddiad Dirprwy Brif Weinidod y Cynulliad, sef Martin McGuinness (Sinn Féin) oherwydd ei iechyd ac mewn protest oherwydd sgandal 'Ymgyrch y Gwres Adnewyddadwy' dan arweiniad gan Unoliaethwyr. Gan nad apwyntiwyd neb yn ei le gan y cenedlaetholwyr, roedd yn rhaid, yn ôl y Ddeddf, alw etholiad. Hwn oedd y 6ed etholiad ers ail-sefydlu'r Cynulliad yn 1998.