Martin Lings | |
---|---|
![]() Martin Lings yn ei wisg Fwslimaidd ym 1948 | |
Ganwyd | 24 Ionawr 1909 ![]() Burnage ![]() |
Bu farw | 12 Mai 2005 ![]() Westerham ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llyfrgellydd, academydd,llenor,hanesydd,bardd, athronydd ![]() |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Frithjof Schuon ![]() |
YsgolhaigIslamaidd oLoegr oeddMartin Lings (Abu Bakr Siraj Ad-Din;24 Ionawr1909 –12 Mai2005) sydd yn nodedig am ei fywgraffiad oMuhammad.
Ganed yn Burnage,Swydd Gaerhirfryn, a chafodd ei fagu ynUnol Daleithiau America lle'r oedd ei dad yn gweithio. Dychwelodd i Loegr i fynychu Coleg Clifton,Bryste, lle'r oedd yn brif swyddog y bechgyn.[1] Cafodd ei fagu yny ffydd Brotestannaidd, ac yn ddiweddarach fe drodd ynanffyddiwr.[2] Astudiodd Saesneg yngNgholeg Magdalen, Rhydychen, ac yno bu'n gyfaill iC. S. Lewis. Aeth iLithwania ym 1935 i ddarlithio ar yr ieithoeddEingl-Sacsoneg aSaesneg Canol ym MhrifysgolKaunas.[1][2]
Teithiodd i'r Aifft ym 1940 i ymweld â chyfaill a oedd yn darlithio ym Mhrifysgol Cairo, ac yn sgil marwolaeth ei gyfaill cafodd Lings ei gyflogi yn ddarlithydd yn y brifysgol. Trodd Lings yn Fwslim, a chafodd ei atynnu gan y traddodiadSwffïaidd a chan syniadauRené Guénon am "y Traddodiad tragwyddol". Priododd â Lesly Smalley ym 1944, a buont yn byw mewn pentref gerPyramidau Giza. Yn sgil chwyldroGamal Abdel Nasser ym 1952, cafodd gweithwyr Prydeinig y brifysgol eu diswyddo a dychwelodd Lings i Loegr. Astudiodd am radd mewn astudiaethau Arabeg, a derbyniodd ddoethuriaeth o SOAS am astudio'r shîc Swffïaidd Ahmad al-Alawi. Ysgrifennodd y llyfrA Sufi Saint of the Twentieth Century ar sail ei draethawd doethurol.[1]
Ym 1955 penodwyd Lings yn geidwad cynorthwyol dros lyfrau a llawysgrifau Dwyreiniol ynyr Amgueddfa Brydeinig. Dyrchafwyd yn geidwad dros yr eitemau hynny ym 1970, ac ym 1973 cafodd ei drosglwyddo i'rLlyfrgell Brydeinig. Cyhoeddodd y gyfrolThe Qur'anic Art of Calligraphy and Illumination (1976) adeg Gŵyl Fyd Islam yn Llundain.[1] Ym 1983 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf,Muhammad: His Life Based on the Earliest Sources, bywgraffiad o'r Proffwyd Muhammad ar sail ffynonellau Arabeg o'r 8g a'r 9g. Bu farw yn ei gartref ynWesterham,Caint, yn 96 oed.[2]