Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Marseille

Oddi ar Wicipedia
Marseille
Mathdinas fawr, dinas â phorthladd,cymuned, tref goleg Edit this on Wikidata
Poblogaeth886,040 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethBenoît Payan Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirBouches-du-Rhône
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Arwynebedd240.62 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr, 0 metr, 648 metr Edit this on Wikidata
GerllawBay of Marseille, Gulf of Lion Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAllauch, Aubagne, Cassis, La Penne-sur-Huveaune, Les Pennes-Mirabeau, Plan-de-Cuques, Le Rove, Septèmes-les-Vallons, Simiane-Collongue Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.2967°N 5.3764°E Edit this on Wikidata
Cod post13000, 13001, 13002, 13004, 13003, 13005, 13006, 13007, 13008, 13009, 13010, 13011, 13012, 13013, 13014, 13015, 13016 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Marseille Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBenoît Payan Edit this on Wikidata
Map

Dinas ail fwyafFfrainc ywMarseille (OcsitanegMarselha) gyda phoblogaeth o 1,349,772. Mae yng nghyn-dalaithProvence gerMôr y Canoldir. Marseille yw porthladd mwyaf Ffrainc a phrifddinasrégionProvence-Alpes-Côte d'Azur adépartementBouches-du-Rhône.

Sefydlwyd Marseille tua600 CC ganRoegiaid gynt oPhocaea dan yr enwMassalia (Μασσαλία). Roedd yn ganolfan fasnachu bwysig a thyfodd yn gyflym. Daeth dan fygythiad gan gynghrair yrEtrwsgiaid,Carthago a'rCeltiaid, a throdd at y Rhufeiniaid am gymorth. Daeth yn ddinas bwysig iawn yn y cyfnod Rhufeinig, ac wedi cyfnod o ddirywiad yn dilyn cwymp yr ymerodraeth roedd wedi ad-ennill ei phwysigrwydd erbyn y10fed ganrif.

Rhoddodd y ddinas ei henw i anthem genedlaethol Ffrainc, "La Marseillaise", a gafodd ei chanu am y tro cyntaf gan filwyr Marseille oedd wedi dod iBaris i gefnogi'rChwyldro Ffrengig.

Yn y 1970au effeithiwyd ar Marseille gan broblemau economaidd, ac arweiniodd diweithdra uchel, lefel uchel o droseddu a chanran uchel o fewnfudwyr, yn enwedig o Ogledd Affrica, at gynnydd mewn cefnogaeth i bleidiau'r dde eithafol. Mae'r sefyllfa economaidd wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf.

Adeiladau

[golygu |golygu cod]
  • Cathédrale de la Major
  • Eglwys Notre Dame de la Garde
  • Eglwys St Laurent
  • Gare Saint-Charles (gorsaf)
  • Hôtel de Ville
  • Musée des Beaux-Arts (amgueddfa)
  • Palais Longchamp
  • Théâtre du Gymnase

Diwylliant

[golygu |golygu cod]

Bydd Marseille yn Brifddinas Diwylliant Ewrop yn 2013.

Enwogion

[golygu |golygu cod]

Ymhlith yr enwogion a aned yn Marseille mae:

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
Dinasoedd Ffrainc

Aix-en-Provence ·Amiens ·Angers ·Argenteuil ·Besançon ·Bordeaux ·Boulogne-Billancourt ·Brest ·Caen ·Clermont-Ferrand ·Dijon ·Dunkerque ·Grenoble ·Le Havre ·Le Mans ·Lille ·Limoges ·Lyon ·Marseille ·Metz ·Montpellier ·Montreuil ·Montsoreau ·Mulhouse ·Nancy ·Naoned ·Nice ·Nîmes ·Orléans ·Paris ·Perpignan ·Reims ·Roazhon ·Roubaix ·Rouen ·Sant-Denis ·Saint-Étienne ·Saint-Paul ·Strasbwrg ·Toulon ·Toulouse ·Tourcoing ·Tours ·Villeurbanne ·

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Marseille&oldid=14113401"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp