Margery Allingham | |
---|---|
Ffugenw | Maxwell March ![]() |
Ganwyd | Margery Louise Allingham ![]() 20 Mai 1904 ![]() Ealing ![]() |
Bu farw | 30 Mehefin 1966 ![]() Severalls Hospital,Colchester ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, golygydd ![]() |
Arddull | ffuglen dirgelwch, ffuglen dditectif ![]() |
Tad | Herbert Allingham ![]() |
Mam | Emmie Allingham ![]() |
Priod | Youngman Carter ![]() |
Awdures oLoegr oeddMargery Allingham (20 Mai1904 -30 Mehefin1966) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur storiau ditectif ac felnofelydd. Ymhlith y cymeriadau a greodd mae'r gŵr bonheddig o dditectif, Albert Campion.
GanedMargery Louise Allingham ynEaling ar20 Mai1904 a bu farw ynColchester o ganser y fron.[1][2][3][4][5][6]
Yn wreiddiol, credir mai paraodi ar un o dditectifsDorothy L. Sayers, yr Arglwydd Peter Wimsey, aeddfedodd Campion yn gymeriad unigol, rhan-dditectif, rhan-anturiaethwr, a bu'n sail i 18 nofel a llawer o straeon byrion.
Ganwyd Margery Allingham ynEaling, Llundain yn 1904 i deulu a oedd wedi ymgolli mewn llenyddiaeth. Roedd ei thad Herbert a'i mam Emily Jane (g. Hughes), ill dau yn ysgrifenwyr. Roedd Herbert yn olygydd yChristian Globe aThe New London Journal (y cyfrannodd Margery erthyglau a straeonSexton Blake yn ddiweddarach), cyn dod yn awdur ffuglen mwydion (pulp fiction) llwyddiannus, tra roedd Emily Jane yn gyfrannwr straeon i gylchgronau merched. Yn fuan ar ôl genedigaeth Margery, gadawodd y teulu Llundain gan ymgartrefu ynEssex, lle roeddent yn byw mewn hen dŷ ynLayer Breton, pentref gerColchester. Mynychodd ysgol leol ac yna'r Perses School for Girls yngNghaergrawnt, gan ysgrifennu straeon a dramâu dwry gydol yr amser. Enillodd ei ffi gyntaf yn wyth oed, am stori a argraffwyd yng nghylchgrawn ei modryb.[7]
Ar ôl dychwelyd i Lundain ym 1920, astudiodd y ddrama a lleferydd yng Ngholeg Polytechnig Regent Street, ac yno y gwellwyd eihatal dweud, wedi dioddef ohono ers ei phlentyndod. Ysgrifennodd yn gyson trwy ei dyddiau ysgol a choleg, pan sgwennodd y ddramaDido ac Aeneas, a berfformiwyd yn Neuadd San Siôr a Theatr Cripplegate. Chwaraeodd Allingham rôl Dido a chynlluniwyd y golygfeydd gan Philip Youngman Carter. Yno hefyd y cyfarfu â'i darpar ŵr, Philip Youngman Carter, a briododd ym 1927. Cydweithiodd â hi a chynlluniodd y siacedi ar gyfer llawer o gloriau ei llyfrau. Roeddent yn byw ar ymyl Cors Essex ynTolleshunt D'Arcy, gerMaldon.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf,Blackkerchief Dick, yn 1923 pan oedd yn 19 oed. Yn ôl pob sôn, roedd yn seiliedig ar stori a glywodd yn ystodséance, er yn ddiweddarachgwadwyd hyn gan ei gŵr. Serch hynny, parhaodd Allingham i gynnwys themâuocwlt mewn nifer o nofelau. CafoddBlackkerchief Dick dderbyniad da, ond nid oedd yn llwyddiant ariannol. Ysgrifennodd nifer oddramâu yn y cyfnod hwn, a cheisiodd ysgrifennu nofel ddifrifol, ond penderfynodd fod ei themâu'n gwrthdaro â'i hysbryd ysgafn, rhydd, penderfynodd yn hytrach roi cynnig ar storiau dirgelwch.
Digwyddodd ei llwyddiant ym 1929 pan gyhoeddoddThe Crime at Black Dudley. Roedd hyn yn cyflwyno Albert Campion, er ei fod yn wreiddiol yn gymeriad bach, y credir ei fod yn barodi o Arglwydd Peter (un o gymeriadau Dorothy Sayers). Dychwelodd ynMystery Mile, diolch yn rhannol i bwysau gan y cyhoeddwyr Americanaidd, a hoffai'r cymeriad.
Ar y dechrau, bu'n rhaid iddi barhau i ysgrifennu straeon byrion a newyddiaduraeth ar gyfer cylchgronau felThe Strand Magazine, ond wrth i Campion fagu cig a gwaed, tyfodd ei dilynwyr a gwerthiant ei llyfrau'n raddol. Profodd Campion mor llwyddiannus nes i Allingham ei wneud yn ganolbwynt i 17 nofel arall a thros 20 o straeon byrion, gan barhau i'r1960au.
Bu'n aelod o 'Detection Club' am rai blynyddoedd.[8][9]