Gwobr Hans Christian Andersen, Medal Carnegie, Medal Carnegie, Gwobr Phoenix, Gwobr Phoenix, Urdd Seland Newydd, Prime Minister's Award for Literary Achievement (Fiction), New Zealand Post Children's Book Awards, Esther Glen Award, honorary doctor of the University of Canterbury, honorary doctor of the University of Waikato
Awdures llyfrau plant a phobl ifanc oSeland Newydd oeddMargaret Mahy (21 Mawrth1936 -23 Gorffennaf2012). Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae:The Haunting aThe Changeover. Mae naws goruwchnaturiol a hyd yn oedgwyddonias i'w llyfrau, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar gymeriadau a'u perthynas at ei gilydd wrth iddynt fynd drwy eu harddegau a chyfnodglasoed.
Fe'i ganed ynWhakatane ar21 Mawrth1936; bu farw yn Christchurch. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Canterbury, Seland Newydd a Phrifysgol Auckland.[1][2][3][4][5][6]
Ysgrifennodd dros 100 o lyfrau gyda lluniau, 40 o nofelau ac 20 casgliad o straeon byrion. Pan fu farw, roedd yn un o dri-deg o awduron yn unig a oedd wedi ennill Medal Hans Christian Andersen am ei “chyfraniad parhaol i lenyddiaeth plant”.[7][8][9][10]
Enillodd Mahy Fedal Blynyddol Carnegie gan Gymdeithas y Llyfrgelloedd, am y llyfr plant gorau'r flwyddyn gan berson o Brydain, am ei chyfrolThe Haunting (1982) ac amThe Changeover (1984). Yn ôl rhai, mae rhai o'i chyfrolau'n cael eu hystyried yn 'glasuron' yn Lloegr; mae'r rhain yn cynnwysA Lion in the Meadow,The Seven Chinese Brothers aThe Man Whose Mother was a Pirate.[11]
Fe'i magwyd yn ardal ei genedigaeth, sef Whakatane. Roedd ei thad, Frances George Mahy, yn adeiladwr pontydd ac yn aml yn dweud wrth ei blant straeon antur a ddylanwadodd yn ddiweddarach ar waith Mahy. Roedd ei mam Helen Penlington yn athrawes. Roedd Margaret yn 'ddysgwr araf', ac roedd yn casaumathemateg yn yr ysgol. Ei stori gyntaf a gyhoeddodd oedd"Harry is Bad", a ysgrifennwyd pan oedd yn saith oed (a gyhoeddwyd ynBay of Plenty Beacon).
Yn yr ysgol, bu'n hynod o lwyddiannus gyda'i nofio.[12]
Cwblhaodd Mahy ei B.A. yng Ngholeg Prifysgol Auckland (1952–1954) a Choleg Prifysgol Caergaint, gan raddio yn 1955. Yn 1956 hyfforddodd yn Ysgol Lyfrgell Seland Newydd, Wellington felllyfrgellydd.[13][14]
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Hans Christian Andersen (2006), Medal Carnegie (1982), Medal Carnegie (1984), Gwobr Phoenix (2005), Gwobr Phoenix (2007), Urdd Seland Newydd, Prime Minister's Award for Literary Achievement (Fiction) (2005), New Zealand Post Children's Book Awards, Esther Glen Award (1970), honorary doctor of the University of Canterbury (1993), honorary doctor of the University of Waikato (2005)[15][16][17] .