Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Marcus Antonius

Oddi ar Wicipedia
Marcus Antonius
Ganwyd83CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw30CC Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
Swyddtribune of the plebs, magister equitum, proconsul, seneddwr Rhufeinig,Conswl Rhufeinig, triumvir rei publicae constituendae,Conswl Rhufeinig, brenin cydweddog, moneyer Edit this on Wikidata
TadMarcus Antonius Edit this on Wikidata
MamJulia Edit this on Wikidata
PriodFadia, Antonia Hybrida Minor, Fulvia, Octavia Yr Ieuengaf,Cleopatra Edit this on Wikidata
PartnerVolumnia Cytheris, Glaphyra Edit this on Wikidata
PlantAntonia, Marcus Antonius Antyllus, Iullus Antonius, Cleopatra Selene II, Alexander Helios, Antonia Major, Antonia Minor, Ptolemi Philadelphws Edit this on Wikidata
Marcus Antonius

Gwleidydd a chadfridogRhufeinig oeddMarcus Antonius (c.14 Ionawr83 CC-1 Awst30 CC). FelMark Antony, mae'n gymeriad pwysig yn nramâuWilliam Shakespeare.

Ganed ef ynRhufain, yn fab iMarcus Antonius Creticus. Dywedir iddo fyw'n wyllt yn ei ieuengctid, ac yn ôlPlutarch roedd mewn dyled o 250 talent (gwerth rhai miliynau o bunnau) cyn bod yn ugain oed. Bu raid iddo ffoi iWlad Groeg, lle bu'n astudio rhethreg. Dangosodd ei fod yn arweinydd milwrol galluog mewn ymgyrch yn erbynAristobulus ynIudaea, ac yna o54 CC fel cynorthwydd iIŵl Cesar yn ei ymgyrch i goncroGâl. Daeth yn un o gefnogwyr amlycaf Cesar, a bu'n ddirpwy iddo yn ystod yrhyfel cartref a ddechreuodd wedi i Gesar groesiAfon Rubicon. Wedi i Gesar gymeryd meddiant o Rufain, parhaodd Antonius fel ei ddirprwy. CyhoeddoddCicero gyfres o ymosodiadau deifiol arno yn yPhilippicau.

Ar15 Chwefror44 CC, yn ystod gŵyl yLupercalia, cynigiodd Antonius goron i Cesar yn gyhoeddus. Gwrthododd Cesar y cynnig, gan ddangos nad oedd yn bwriadu dod yn frenin. Fis yn ddiweddarach, llofruddiwyd Cesar, a cyn hir bu rhyfel cartref eto, gyda Marcus Antonius yn arwain pleidwyr Cesar yn erbyn y gweriniaethwyr oedd wedi bod a rhan yn ei lofruddio. Yn42 CC, ymladdwydBrwydr Philippi rhwng Antonius acOctavianus a dau o lofruddion CesarnGaius Cassius Longinus aMarcus Junius Brutus. Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar3 Hydref,42 CC, llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun. Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar23 Hydref, a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.

Ffurfiodd Antonius bartneriaeth agOctavianus ("Augustus" yn ddiweddarach) aMarcus Aemilius Lepidus. Gofynnodd Antonius am gymorth gan Cleopatra, brenhinesyr Aifft, ond gwrthododd hi ymyrryd. Teithiodd Antonius i'r Aifft i'w chyfarfod yn41 CC, a syrthiodd y ddau mewn cariad. Penderfynodd Antonius aros yn yr Aifft am gyfnod, nes iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i Rufain. Yn fuan wedyn ganwyd dau efaill iddo ef a Cleopatra, Cleopatra Selene ac Alecsander Helios. Yn36 CC teithiodd Antonius i'r dwyrain i ymladd yn erbyn yParthiaid. Aeth Cleopatra gydag ef, a ganwyd eu trydydd plentyn, Ptolemi Filadelfos. Bu'r ymgyrch yn llwyddiant mawr, a dychwelodd y ddau i Alexandria.

Roedd perthynas Antonius gydag Octavianus (a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach dan yr enwAugustus), ei frawd-yng-nghyfraith, wedi dirywio erbyn hyn. Yn 33 CC, daeth diwedd ar y bartneriaeth rhyngddynt. Yn32 CC aeth yn rhyfel rhwng Octavianus ac Antonius a Cleopatra. YmMrwydr Actium yn31 CC gorchfygwyd llynges Antonius a Cleopatra gan lynghesydd Octavianus,Marcus Vipsanius Agrippa, a lladdodd Antonius ei hun. Ychydig yn ddiweddarach, lladdodd Cleopatra ei hun hefyd.

Plant

[golygu |golygu cod]
  1. Gyda Fulvia:
  2. GydaOctavia Minor, chwaer Octavianus, yn ddiweddarachAugustus:
  3. Gyda Cleopatra:

Llenyddiaeth

[golygu |golygu cod]

Fel "Mark Antony", mae Antonius yn un o'r prif gymeriadau mewn dwy o ddramâu Shakespeare,Julius Caesar acAntony and Cleopatra.Yn y ffilm "Cleopatra", cymerwyd rhan Antonius ganRichard Burton, gydagElizabeth Taylor fel Cleopatra.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Marcus_Antonius&oldid=11763334"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp