Bella Rosenfeld, Virginia Haggard Leirens, Valentina Brodsky
Plant
David McNeil, Ida Chagall
Gwobr/au
Carnegie Prize, Yakir Yerushalayim, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd,Gwobr Erasmus, Wolf Prize in Arts, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, Honorary doctor of the Catholic University of Louvain, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow
RoeddMarc Chagall (7 Gorffennaf1887 -28 Mawrth1985) yn beintiwr, printiwr a chynllunydd. Bu’n gysylltiedig gyda nifer o arddulliau celfyddydol, cyfunodd elfennau Ciwbiaeth, Symbolaeth a Fauve gyda'i ddehongliad unigryw o gelf werinol Iddewig dwyrain Ewrop. Dangosodd ei waithFi a'r Pentref (1911) syniadaethSwrealaeth rhai blynyddoedd cyn ffurfio mudiad y Swrrealaidd ei hun. Yn fodernydd cynnar, creodd Chagall waith yn bron bob cyfrwng celfyddydol, yn cynnwys setiau llwyfan, engrafiadau (etchings) Beiblaidd a gwydr lliw.[1]
Ystyrir fel un o arlunwyr mwyaf llwyddiannus yr 20g.
Ganwyd ynVitebsk,Belarws (Rwsia pryd hynny), ym 1887. Fe'i fagwyd ar aelwyd Iddewig draddodiadol gydag wyth o frodyr a chwiorydd. Gweithiodd ei dad mewn warws pysgod, ei fam yn cadw siop.
Er ei gefndir tlawd, fe lwyddodd i gael lle i astudio peintio ynSt. Petersburg cyn symud iBaris ym 1910 ble cyfarfu nifer o arlunwyr ac ysgrifennwr yn cynnwysGuillaume Apollinaire aRobert Delaunay. Hefyd fe gafodd gyfle i weld llawer o ddarluniau prif fudiadau celf y cyfnod felArgraffiadaeth (Impressionnisme) a Fauve. Cyn hir roedd Chagall yn arddangos ei waith wrth eu hochr.[2]
Yn dilyn arddangosfa lwyddiannus un dyn ymMerlin, 1914, dychwelodd Chagall i Vitebsk ble briododd ei gariad, Bella. Rhai wythnosau'n ddiweddarach fe ddechreuodd yRhyfel Byd Cyntaf a chaewyd ffiniau Rwsia. Yn methu teithio fe'i ganolbwyntiodd ar beintio ei gymdogion Iddewig.
Yn frwdfrydig drosChwyldro Rwsia ym 1917, penderfynodd aros yn Vitebsk. Fe'i benodwyd yn gomisar dros gelfyddyd a sefydlwyd Ysgol Celf y Bobl yn y dref ond i adael ym 1920 wedi dadleuon gyda chefnogwyr celfyddyd Swprematydd (Suprematist). Roedd y Swprematyddion y prif fudiad celfyddydol yn yrUndeb Sofietaidd yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y chwyldro, eu gwaith yn seiliedig ar siapiau geometrig ac yn tra gwahanol i waith Chagall.[3]
Marc Chagall, 1941
Symudodd iFoscow i gynllunio setiau ar gyfer Theatr Siambr Iddewig y wlad. Ym 1922 fe'i adawodd yr Undeb Sofietaidd am byth gan deithio i Ferlin ac wedyn yn ôl i Baris ym 1923.
Ym Mharis bu'n hynod o weithgar fel peintiwr ond hefyd yn gwneud engrafiadau (etchings). Yn ystod y 1930au fe'i deithiodd i'rIseldiroedd,Sbaen,Gwlad Pwyl,Yr Eidal aPhalestina. Ym Mhalestina fe ymddiddorodd yn hanes a bywyd Iddewig a fu'n ysbrydoliaeth i'w engrafiadau Beiblaidd.[3]
Bu Chagall yn un o'r arlunwyr a gondemniwyd eu gwaith ynEntartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan yNatsiaidd pan ddaethant i rym yn yr Almaen. Llosgwyd llyfrau a malwyd darluniau a cherfluniau modern nad oedd yn gyd fynd â syniadaeth. Roedd Chagall, fel arlunydd modern ac Iddew a chefnogodd y Comiwnyddion Sofietaidd mewn perygl arbennig. Pan feddiannodd Ffrainc gan y Natsiaidd bu Chagall yn ffodus i ddianc i'rUnol Daleithiau mewn pryd. Lladdwyd y boblogaidd Iddewig bron i gyd o'i dref wreiddiol Vitebsk yn Belarws.[4]
Ar ôl y rhyfel fe'i symudodd yn ôl i fyw yn Ffrainc ble fu'n hynod o weithgar mewn nifer o feysydd a chyfryngau trwy'r degawdau canlynol. Ystyrir Chagall fel yr arlunydd mawr olaf y mudiad modern hanner cyntaf yr 20g (Bu farwJoan Miró dwy flynedd yn gynt). Gweler ei waith yn gyfuniad cwbl unigryw o'r avant garde arloesol dan ddylanwad traddodiad gwerinol Iddewig ei blentyndod.
Cofir yn bennaf am ei ffigyrau angylaidd yn hedfan fel mewn breuddwyd uwch tirwedd hud a lledrith rhyw ‘’sitetl’’ dychmygol.
↑Benjamin Harshav: Marc Chagall and his times: a documentary narrative. Contraversions: Jews and Other Differenc. Stanford University Press; 1 edition. August 2003.ISBN 0804742146. Polonsky, Gill, Chagall Phaidon, 1998