Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Manga

Oddi ar Wicipedia
Manga
Enghraifft o:comic format, comic genre, maes gwaith Edit this on Wikidata
Mathcomic Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Rhan oanime and manga Edit this on Wikidata
Enw brodorol漫画 Edit this on Wikidata
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ail argraffiad Saesneg o'r llyfr MangaInuYasha, Cyf. 1

Math ogomics a digrifluniau (cartŵns) ydyManga (Siapaneg 漫画), sy'n airJapaneg. Y tu allan i Japan mae'n golygu 'comics Siapaneaidd' yn neilltuol, ond yn Japan gelwir digrifluniau gorllewinol hefyd yn "manga". Mae'r farchnad manga wedi datblygu'n ddiwydiant anferthol, oedd yn werth tua $5.5 biliwn yn 2009 yn Japan, $250m (2012) yn Ewrop a $175m ynUDA.

Datblygodd Manga o gyfuniad o arddulliauukiyo-e ac arddulliau darlunio tramor, a chymerodd ei ffurf bresennol yn fuan wedi diweddyr Ail Ryfel Byd. Fel rheol mae'r lluniau i gyd mewn du a gwyn, ac eithrio'r clawr a'r tudalennau cyntaf; yr unig eithriad yw'r ffurfhybridAnimanga, sy'n cyfuno elfennau o Fanga acAnime ac yn lliwgar iawn.

Mathau

[golygu |golygu cod]

Ceir sawl math o fanga:

Gwreiddiau Manga

[golygu |golygu cod]

Ystyr y gairmanga yn llythrenol yw "lluniau ar hap", neu "lluniau ffwrdd-â-hi". Daeth y gair i mewn i'r iaith lafar yn ystod y18g pan gyhoeddwyd gweithiau felMankaku zuihitsu (1771) gan Suzuki Kankei a'r llyfr darluniauShiji no yukikai (1798) ganSanto Kyoden. Ar ddechrau'r19g ymddangosodd weithiau felManga hyakujo (1814) gan Aikawa Minwa a'r llyfrHokusai manga sy'n cynnwys brasluniau amrywiol gan yr arlunyddukiyo-e enwogHokusai.

Fodd bynnag, mae'r traddodiad i'w olrhain ymhellach yn ôl i'r12g pan dynnai sawl artist luniaugiga (yn llythrennol "lluniau digrif"), ac yn neilltuolchōjū jinbutsu giga (鳥獣人物戯画, sef "lluniau digrif o bobl ac anifeiliaid"); lluniau sy'n cynnwys sawl nodwedd o'rmanga gan bwysleisio'r elfennau storïol uniongyrchol a llinellau artistaidd syml ond cryf.

Yn y19g, pan ddechreuodd yrAmericanwyr fasnachu â Siapan, daeth artistiaid tramor i weithio yn y wlad a dysgu elfennau fel llinell, ffurf a lliw yn y traddodiad Gorllewinol; roedd hyn yn ddatblygiad newydd am fodukiyo-e yn rhoi mwy o bwyslais ar y syniad tu ôl i'r llun mewn arddull llawer mwy rhydd. Gelwid Manga hybrid y cyfnod hwnnw ynPonchi-e ("lluniau Punch") a, fel y cylchgrawn Seisnig o'r un enw,Punch, roedd yn canolbwyntio ar ddarlunio hiwmor adychan gwleidyddol mewn cyfresi byrion o 1-4 o luniau.

Manga heddiw

[golygu |golygu cod]

Yn aml mae comics Manga poblogaidd yn cael eu haddasu ar gyfer ffilmiauanime (yn y Gorllewin gelwir Manga yn "anime" weithiau ond maeanime yn ffurf arbennig, diweddar, ar wahân). Weithiau maeanime llwyddiannus yn cael ei droi'n fanga, ond eithriad yw hynny.

Er bod nifer fawr o gomics a llyfrau Manga yn cael eu creu ar gyfer plant a phobl yn euharddegau, camgymeriad fyddai meddwl mai comics cyffredin ydyn nhw. Mae'r Siapaneaid yn cymryd eu manga mewn difri fel ffurf artistaidd arbennig ac mae rhai arlunwyr manga yn cael eu hystyried yn artistiaid mawr. Agwedd arall ar y manga yw'r nifer fawr o lyfrau ar gyfer oedolion ar ffurfcartŵns neu ddarluniau manga, yn amrwyio o fath o nofelau hanesyddol neu ffuglen ffantasi i greadigaethau erotig (Hentai neuLolikon).Cafodd y cylchgrawn cynta manga ei wneud gan Kanagaki Robun a Kawanabe Kyosai yn 1874.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]

Ceir miloedd o wefannau sy'n ymwneud â manga. Rhoddir yma ychydig o'r rhai mwyaf ffeithiol.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Manga&oldid=11585972"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp