Malo | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Mawrth 520 ![]() Llancarfan ![]() |
Bu farw | 15 Tachwedd 621 ![]() Archingeay ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad ![]() |
Swydd | esgob ![]() |
Dydd gŵyl | 15 Tachwedd ![]() |
Sant sy'n un oSaith Sant-sefydlydd Llydaw oeddMalo (27 Mawrth520 -15 Tachwedd621;Llydaweg:Maloù,Lladin:Maclovius).
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael amdano, ond credir iddo gael ei eni ynLlancarfan,Bro Morgannwg, tua diwedd y6g, ac iddo gael ei addysg ynLlanilltud Fawr. Roedd e'n fab i Caradog ab Ynyr Gwent a Derwela ac yn gefnder iSamson. Dywedir iddo fynd gyda SantBrendan o Iwerddon ar ei fordaith enwog. Daeth yn esgob yn Llancarfan, ac yn sgil yPla Melyn fe aeth Malo â nifer o fynaich iLydaw, a sefydlon nhw wladfa Gristnogol yno a ddatblygodd yn dref dros y canrifoedd. Rhoddodd y sant ei enw i'r ddinas honno,Sant-Maloù ("Saint-Malo" yn Ffrangeg; "St Malo" yn Saesneg). Dethir ei ŵyl ar15 Chwefror. Dywedir mewn un ffynhonnell iddo farw yn 649.
Yn yr iaith Ffrangeg, mae yna ansoddairMalouin(s) neuMalouine(s) ar gyfer unrhyw beth sy’n perthyn neu’n gysylltiedig â thref St Malo, a thrwy hynny daw'r enwau Ffrangeg a Sbaeneg arYnysoedd y Falklands:Iles malouines acIslas Malvinas.
Ysgrifennwyd ei fuchedd,Vita S. Maclovii (Buchedd Sant Malo) tua870.[angen ffynhonnell]