Ardal anial yn ne-orllewinPacistan a de-ddwyrainIran ywMakran (Urdu/Perseg: مکران). Er nad ynanialwch go iawn, mae'n un o'r lleoedd poethaf a sychaf ar gyfandirAsia. Mae'n gorwedd yn bennaf yng ngwaelod nhalaithBalochistan ym Mhacistan, gyda'r rhan arall dros y ffin yn Iran, ar lanMôr Arabia aGwlff Oman.
Mae'r arfordir yn cynnwys nifer o faeau ond mae'n dywodlyd a chreigiog ac ychydig iawn o afonydd sydd yno. Mae bryniau Makran yn cael eu cyfrif fel estyniad olaf cadwyn hir yrHindu Kush.
Mae'r gwastadedd arfordirol cyfyng yn codi'n gyflym i'r bryniau. O'r 1,000 km o arfordir, mae tua 750 km yn gorwedd ym Mhacistan. Ychydig iawn o bobl sy'n byw ym Makran, gyda'r mwyafrif yn byw mewn cyfres o borthladdoedd bychain felChah Bahar,Gwatar,Jiwani, aGwadar,Pasni aOrmara.
Yr ymadrodd PersegMahi khoran, "bwytawyr pysgod" (Mahi = pysgod +khor = bwyta) yw tarddiad yr enw Makran, yn ôl pob tebyg. Wrth adrodd hanesAlecsander Fawr (gweler isod), cyfeiria haneswyr Groeg at y ffaith fod pobol y Makran yn byw ar bysgod ac yn eu bwyta'n amrwd.
Mae Makran yn adnabyddus yn bennaf i haneswyr am fodAlecsander Fawr, breninMacedon a goregynwyrYmerodraeth Persia, wedi ei groesi ar ddiwedd ei daith trwyIran acAffganistan a ddaeth ag ef i ogledd-orllewinisgyfandir India. Ar ôl anfon rhan o'r fyddin yn ôl trwy Affganistan i warchod y taleithiau a goncweriwyd ganddo yno, dychwelodd Alecsander a rhan arall ei fyddin i'rDwyrain Canol trwy ddilyn arfordir de Pacistan ac Iran. Ar y daith beryglus ac anodd collwyd nifer o filwyr, yn arbennig wrth groesi anialdiroedd Makran. Ceisiodd y llynges dan arweiniadPerdiccas, a adeiladwyd gan filwyr Alecsander arAfon Indus, gysgodi'r fyddin, ond yn aflwyddiannus. Pan gyrhaeddodd y fyddinSusa, dim ond rhai miloedd o'r milwyr oedd ar ôl.