Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Maelor Saesneg

Oddi ar Wicipedia
Maelor Saesneg
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arfbais Powys Fadog
Arfbais Powys Fadog

Cwmwd canoloesol yng ngogledd-ddwyrainCymru oeddMaelor Saesneg. Fe'i greuwyd tua'r flwyddyn1202, pan gafoddcantrefMaelor ei rannu yn ddwy ran gan dywysogPowys Fadog, gydagafon Dyfrdwy yn ffin naturiol rhyngddynt. Yn ddiweddarach, yn sgil concwestEdward I o Loegr (1282-83), cafodd yr enw MaelorSaesneg mewn cyferbyniaeth a'i gymydog am fod nifer oSaeson wedi ymgartrefu yno, ond serch hynny arosodd yn ardal bur Gymraeg am ganrifoedd.

Gorweddai Maelor Saesneg i'r dwyrain o afon Dyfrdwy fel tafod o dir Cymreig yn ymestyn i mewn i Loegr. Ffiniai â Maelor Gymraeg i'r gorllewin dros afon Dyfrdwy, ac âCaer,Swydd Amwythig a chwmwdY Traean (Croesoswallt) i'r dwyrain a'r de.

Dechreuodd Maelor Saesneg fel uned dan awdurdod tywysogionPowys Fadog. Yn1397, yn nheyrnasiadRhisiart II o Loegr, unwyd Maelor Saesneg â Swydd BalatinaiddCaer i ffurfio Tywysogaeth Caer.

Gyda chreuSir Fflint yn1536, daeth yn rhan o'r sir newydd honno; cyfeirid ato'n aml yn Saesneg felFlintshire Detached am fod rhan oSir Ddinbych yn gorwedd rhyngddo â gweddill Sir Fflint.

Owrtyn (Saesneg:Overton) oedd ei ganolfan weinyddol. Roedd yn cynnwys ardalHanmer, cartref yr Hanmeriaid. RoeddMargaret Hanmer, gwraigOwain Glyndŵr, yn frodor o'r ardal. Credir i'r priodas gael ei gynnal yn Hanmer ei hun, tua 1384.

Mae'r cwmwd heddiw yn rhan o ardalMaelor ymmwrdeistref sirol Wrecsam.

Yr Hen Blwyfi

[golygu |golygu cod]

Dolen allanol

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Maelor_Saesneg&oldid=11018537"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp