Mae'r erthygl hon yn sôn am y wlad yn Affrica. Am y ffilm 2005, gwelerMadagascar (ffilm 2005).
Ynys achenedl yngNghefnfor India, oddi ar arfordir dwyrainAffrica, ywGweriniaeth Madagasgar. Mae'r genedl yn cynnwys ynys Madagascar (pedwaredd ynys fwyaf y byd) a nifer o ynysoedd llai cyfagos. Mae Madagascar yn adnabyddus am ei bio-amrywiaeth, gyda 90 y cant o'i bywyd gwyllt yn unigryw i'r ynys. Mae'r ecosystemau amrywiol a bywyd gwyllt unigryw dan fygythiad o ganlyniad i dwf ym mhoblogaeth yr ynys a bygythiadau amgylcheddol eraill.
Mae'r olion dynol cynharaf ar Fadagasgar yn dyddio yn ôl i 2000CC. Pobl Austronesaidd oedd y cyntaf i ymsefydlu ar yr ynys gan deithio yno o Borneo rhwng 350CC a 550OC. Ymunodd ymfudwyr Bantu a hwy o gwmpas 1000OC wedi iddynt groesi o ddwyrain Affrica. Daeth grwpiau eraill i'r ynys dros amser a chyfrannu at ffurfio'r diwylliant Malagasy. Mae'r grwp ethnig Malagasy yn aml yn cael ei rannu'n ddeunaw is-grwp, a'r mwyaf o'r rhain yw'r Merina o'r ucheldiroedd canolog.
Tan ddiwedd y 18fed ganrif, roedd Madagasgar yn cael ei rheoli gan amrywiaeth o gynghreiriau gwleidyddol gymdeithasol. O ddechrau'r 19eg ganrif, roedd yr ynys yn cael ei rheoli fel teyrnas Madagasgar gan uchelwyr Merina. Dymchwelodd y frenhiniaeth yn 1897 pan ddaeth yr ynys yn rhan o ymerodraeth drefedigaethol Ffrainc, a hynny hyd nes iddi gael ei hannibyniaeth ym 1960. Ers 1992, mae'r genedl wedi ei llywodraethu fel democratiaeth gyfansoddiadol o'i phrifddinas Antananarivo.
Madagasgar
Mae Madagasgar yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Organisation Internationale de la Francophonie a Chymuned Ddatblygu Affrica Ddeheuol.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae Madagasgar yn perthyn i grwp o wledydd lleiaf datblygedig y byd. Mae Malagaseg a Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol y wladwriaeth. Mae mwyafrif y boblogaeth yn arddel credoau traddodiadol, Cristnogaeth, neu gyfuniad o'r ddau. Prif elfennau strategaeth datblygu Madagasgar yw ecodwristiaeth, amaethyddiaeth, ynghyd â buddsoddiadau mewn addysg, iechyd a menter breifat.
Y cyntaf i sgwennu'r iaith frodorol Malagasi oedd y ParchDavid Jones a gafodd ei addysg yn Neuadd Lwyd, gerAberaeron ac a fu farw ynMawrisiws yn 1841.[1] Ymsefydlodd yn Antananarivo yn 1820 . Gyda David Griffiths, cyfieithodd y Beibl yn iaith y Malagasy, a chyda chynhorthwy David Johns, cyhoeddodd lyfr sillebu, catecism, ac emyniadur. Bu'n rhaid iddo adael, ond parhaodd i ddefnyddio Mawrisiws fel gorsaf i efengylu ohoni a bu farw yno ym Medi 1841.