Macha
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu / allforio
Mewn prosiectau eraill
DuwiesGeltaidd a addolid ynIwerddon oeddMacha yn wreiddiol. Cysylltir hi â rhyfel, ceffylau, sofraniaeth a safleoeddArmagh acEmain Macha ynSwydd Armagh, sy'n dwyn ei henw. Gall fod yn gysylltiedig a'r dduwiesEpona yn nhraddodiadGâl aRhiannon yngNghymru.
Ceir nifer o gymeriadau yn dwyn yr enw Macha ym mytholeg Iwerddon; credir ei bod i gyd yn deillio o'r dduwies. Yn yLebor Gabála Érenn mae cyfeiriad at Macha fel un o ferchedPartholón. Ceir cofnod hefyd am Macha gwraigNemed, a Macha, merchErnmas, un o'rTuatha Dé Danann, sy'n chwaer i'rMorrígan a'rBadb.
Yn ôl traddodiad o'r Canol Oesoedd, Macha Mong Ruad ("Macha a'r Mwng Coch") oedd yr unig frenhines yn rhestr Uchel Frenhinoedd Iwerddon.