Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

MI6

Oddi ar Wicipedia
MI6
Vauxhall Cross, pencadlys MI6
Enghraifft o:asiantaeth cudd-wybodaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1909 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadChief of the Secret Intelligence Service Edit this on Wikidata
SylfaenyddMansfield Smith-Cumming Edit this on Wikidata
RhagflaenyddDirectorate of Military Intelligence Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadSwyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain,Vauxhall Cross Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://sis.gov.uk Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

MI6 yw'r enw arferol a roddir ar yGwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol[1] (Saesneg:Secret Intelligence Service neu'r(SIS)), un o asiantaethau diogelwch yDeyrnas Unedig. Y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yw asiantaeth cudd-ymchwil allanol y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o gymuned cudd-ymchwil y wladwriaeth honno. Mae'n cyd-weithio â'r Gwasanaethau Diogelwch (MI5), Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gweithlu Cudd-ymchwil Amddiffyn o dan gyfarwyddyd y Pwyllgor Cudd-ymchwil ar y Cyd (yJoint Intelligence Committee (JIC)). Syr John Scarlett yw'r pennaeth presennol.[2]

Ers1995, lleolir pencadlys y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol ynVauxhall Cross ar lan ddeheuolAfon Tafwys, ynLlundain.

Gweithgareddau

[golygu |golygu cod]

Wrth iUDA a'rDU baratoi ioresgyn Irac in 2003, gweithredodd MI6 "Operation Mass Appeal", sef ymgyrch i blannu straeon ffug yng nghyfryngau gwledydd Prydain amarfau dinistriol torfol (WMD) ym meddiantIrac er mwyn cefnogi'r llywodraethau hynny, a oedd yn ceisio defnyddio'r honiad am y WMDau fel esgus cyfreithiol dros y rhyfel yn yCenhedloedd Unedig. Cafodd yr ymgyrch cudd yma ei ddatguddio gan ySunday Times yn Rhagfyr 2003.[3] Mae honiadau gan y cyn-swyddog MI6 Scott Ritter yn awgrymu fod yr asiantaeth yn gyfrifol am ymgyrchoeddpropaganda cyffelyb yn erbyn Irac ers y 1990au cynnar. Mae Ritter yn dweud bod MI6 wedi ei recriwtio yn 1997 i cynorthwyo'r ymgyrch propaganda. Dywed: "The aim was to convince the public that Iraq was a far greater threat than it actually was."[3] Mae gweithgareddau o'r fath yn mynd yn erbyn rheolau gweithredol MI6 ei hun, am nad yw'n fod i ymyrryd ym materion mewnol y DU.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Yr enw Cymraeg swyddogol, yn ôl MI5
  2. [1]
  3. 3.03.1 Nicholas Rufford (28 Rhagfyr 2003). Revealed: how MI6 sold the Iraq war. Sunday Times.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod amy Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=MI6&oldid=11832134"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp