Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Luigi Galleani

Oddi ar Wicipedia
Luigi Galleani
Ganwyd12 Awst 1861 Edit this on Wikidata
Vercelli Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1931 Edit this on Wikidata
otrawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Caprigliola Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor,cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Mudiadinsurrectionary anarchism, mutual aid Edit this on Wikidata

Anarchydd o'rEidal oeddLuigi Galleani (12 Awst18614 Tachwedd1931) oedd yn byw yn yrUnol Daleithiau o 1901 i 1919 ac yno yn siarad o blaidpropaganda'r weithred a defnyddio trais i ddymchwel y llywodraeth.

Ganwyd yn ninas Vercelli yn rhanbarthPiemonte,yr Eidal. Astudiodd y gyfraith ymMhrifysgol Torino, ond oherwydd ei syniadau anarchaidd fe wnaeth ffoi'r wlad ym 1880 cyn iddo ennill ei radd. Treuliodd pymtheg mlynedd ynFfrainc, a chyfnod byr yny Swistir cyn iddo gael ei ddanfon yn ôl i'r Eidal. Cafodd ei arestio a'i garcharu ar ynys Pantelleria ym 1895, ac yno fe briododd a chafodd pedwar plentyn. Llwyddodd i ddianc o'r ynys i'rAifft ym 1900, ac oddi yno iLoegr a'r Unol Daleithiau. Ymsefydlodd ynNew Jersey a golygodd y cylchgrawnLa Questione Sociale. Cafodd ei gyhuddo ym 1903 o annog terfysg yn ystod streic, ac fe wnaeth ffoi iGanada. Y flwyddyn wedyn, dychwelodd dros y ffin iVermont a sefydlodd y cylchlythyrCronaca Sovversiva.[1]

Cafodd ei ddal ym 1906 a'i roi ar brawf, ond ei ryddhau gan nad oedd y rheithgor yn cytuno ar y farn. Symudod i Lynn,Massachusetts ym 1912.[2] Ysgrifennodd lyfr ar wneud bomiaudeinameit, ac anogodd ei ddilynwyr i wrthryfela'n erbyn yr awdurdodau drwy ddulliau treisgar. Cychwynnodd gyfres o ymosodiadau yn ardalBoston yn y flwyddyn 1916, er na chafodd llawer o bobl eu lladd. Ar noson 2 Mehefin 1919, cafodd sawl dinas ar draws y wlad ei thargedu gan fomiau'r anarchwyr. Ymatebodd yr awdurdodau yn llym: alltudiwyd Galleani yn ôl i'r Eidal, a chafodd mewnfudwyr radicalaidd eraill eu harestio yn ystod Cyrchoedd Palmer.

Bu farw yn 70 oed odrawiad ar y galon.[2]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg)Biography: Luigi Galleani, Anarchy Archives. Adalwyd ar 26 Awst 2017.
  2. 2.02.1(Saesneg)Chronology of Luigi Galleani, Anarchy Archives. Adalwyd ar 26 Awst 2017.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Luigi_Galleani&oldid=12909735"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp