Lucy Owen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Tachwedd 1970 ![]() Llandaf ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd newyddion, newyddiadurwr ![]() |
Priod | Rhodri Owen ![]() |
MaeLucy Jane Owen (néeCohen) (ganed18 Gorffennaf1971) yn newyddiadurwraig teledu Cymreig.
Mynychodd OwenYsgol Howell's ynLlandaf,Caerdydd a graddiodd mewn Saesneg oRoyal Holloway, Prifysgol Llundain.
Dechreuodd ei gyrfa darlledu fel ymchwilydd gydaBBC Radio Wales, cyn symud ymlaen i ddarparu adroddiadau a chyd-gyflwyno rhaglenni. Dechreuodd ddarllen y newyddion gydaHTV Wales ym 1995 gyda chyfraniadau newyddion lleol ar gyferGMTV. Rhwng 1996 a 2007, cyflwynoddWales Tonight, y rhaglen newyddion rhanbarthol arITV Wales, a ddarlledir oGaerdydd.
Cyflwynodd Owen ar yr ITV News Channel, a bu'n prif gyflwynydd arITV News,Lunchtime News,Evening News a'rWeekend News. Cyflwynodd ei rhaglen olaf oWales Tonight ar ddydd Gwener,19 Hydref,2007.
Mewn cam annisgwyl a wnaed am resymau personol, o'r5 Tachwedd2007, dechreuodd Owen gyflwyno rhaglen newyddion nosweithiolBBC Wales, "BBC Wales Today", gan gymryd lle'r cyflwynyddSara Edwards.[1] O ganlyniad i newid o'r naill sianel i'r llall, ymunodd Owen â'i gŵr ar y rhaglen deleduX-Ray.
Priododd Owen y cyflwynydd teleduRhodri Owen ym Mehefin 2004, yn Eglwys Saint Andras,Saint Andras gerDinas Powys,[2] ac mae ganddynt un mab, Gabriel.