Logo'r Dodgers yn Stadiwm Dodgers Jeff Pfeffer, 1916 Brooklyn Robins
Mae'rLos Angeles Dodgers yn dîmpêl-fas proffesiynol Americanaidd wedi'i leoli ynLos Angeles, California. Maent yn cystadlu yng Nghynghrair Mwyaf Pêl-fas (MLB) yn glwb-aelod yn Adran Orllewinol y Gynghrair Genedlaethol (NL). Sefydlwyd ym 1883 ynBrooklyn, Efrog Newydd,[1][2] a symudodd y tîm i Los Angeles cyn y tymor 1958.[3] Chwaraeon nhw yn Coliseum Coffa Los Angeles am bedwar tymor, cyn symud i'w cartref presennol yn Stadiwm Dodgers ym 1962.[4]
Mae'r Dodgers wedi ennill chwe phencampwriaeth Cyfres y Byd a dau ddeg tri penwn y Gynghrair Genedlaethol. Mae un ar ddeg o enillwyr gwobrau chwaraewr mwyaf gwerthfawr (MVP) yr NL wedi chwarae i'r Dodgers, gan ennill cyfanswm o dair ar ddeg o Wobrau MVP. Mae'r deunaw enillydd Gwobr Rookie y Flwyddyn wedi chwarae i'r Dodgers, dwywaith cymaint â'r tîm agosaf nesaf, gan gynnwys pedwar yn olynol rhwng 1979 a 1982, a phump yn olynol rhwng 1992 a 1996.
Er eu bod yn enillwyr penwn y Gynghrair Genedlaethol yn nhymhorau 2017 ac yn 2018, collodd y Dodgers Cyfres y Byd yn 2017 ac yn 2018.
Yn gynnar yn yr 20g, pryd elwir y tîm y Brooklyn Robins, enillon nhw penynau'r cynghrair ym 1916 a 1920, ond collon nhw Cyfres y Byd y ddau dro, yn gyntaf i Boston ac yna Cleveland. Yn yr 1930au, newidiodd y tîm ei enw i'r Dodgers, a enwyd ar ôl y pedestriaid ym Mrooklyn a ochrgamwyd tramiau'r ddinas.[5] Ym 1941, cipiodd y Dodgers eu trydydd penwn y Gynghrair Genedlaethol, ond collon nhw i'rNew York Yankees. Roedd hyn yn nodi dechrau'r ymryson Dodgers-Yankees, gan y byddai'r Dodgers yn eu hwynebu yn eu chwe ymddangosiad nesaf yng Nghyfres y Byd. O dan arweiniad Jackie Robinson, chwaraewr du cyntaf yr MLB yn yr oes fodern, cipiodd y Dodgers eu teitl Cyfres y Byd cyntaf ym 1955 trwy drechu'r Yankees am y tro cyntaf, stori a ddisgrifiwyd yn arbennig yn llyfr 1972The Boys of Summer.
Yn dilyn tymor 1957 gadawodd y tîm Brooklyn am Los Angeles. Ond yn eu hail dymor yn Los Angeles, enillodd y Dodgers eu hail deitl Cyfres y Byd, gan guro'r Chicago White Sox mewn chwe gêm ym 1959. Wedi eu arwain gan arddull pitsio goruchafol Sandy Koufax a Don Drysdale, cipiodd y Dodgers dair penwn yn y 1960au ac ennill dau deitl Cyfres y Byd arall, gan curo'r Yankees mewn pedair gêm ym 1963, ac curo'r Minnesota Twins yn agos mewn saith ym 1965. Roedd lwyddiant 1963 yn erbyn y Yankees ond eu hail fuddugoliaeth yn eu erbyn, a'u cyntaf yn eu herbyn fel tîm yn Los Angeles. Enillodd y Dodgers bedair penwn arall ym 1966, 1974, 1977 a 1978, ond fe gollon nhw ym mhob Cyfres y Byd. Aethant ymlaen i ennill Cyfres y Byd eto ym 1981, diolch yn rhannol i'r pencampwr pitsio Fernando Valenzuela. Oherwydd hyn, cafodd y 1980au cynnar eu galw'n "Fernandomania." Ym 1988, arweiniodd arwr pitsio arall, Orel Hershiser, y tîm i fuddugoliaeth yng Nghyfres y Byd. Enillodd y Dodgers y penwn yn 2017 a 2018, ond fe gollon nhw Gyfres y Byd i'r Houston Astros a Boston Red Sox yn y drefn honno.
Mae'r Dodgers yn rhannu ymryson ffyrnig gyda'r San Francisco Giants, y hynaf ym mhêl-fas, sy'n dyddio'n ôl i pan chwaraeodd y ddau tîm yn Efrog Newydd. Symudodd y ddau dîm i'r gorllewin ar gyfer y tymor 1958.[6] Mae'r Brooklyn Dodgers a Los Angeles Dodgers wedi chwarae yng Nghyfres y Byd 20 gwaith, tra bod y New York Giants a San Francisco Giants hefyd wedi chwarae 20 gwaith. Mae'r Giants wedi ennill dwy Gyfres y Byd yn fwy (8); mae'r Dodgers a'r Giants yn rhannu'r record o 23 penwn y Gynghrair Genedlaethol. Pan oedd y ddau dîm wedi'u lleoli yn Efrog Newydd, enillodd y Giants bum pencampwriaeth Cyfres y Byd, a'r Dodgers yn ennill un. Ar ôl symud i Califfornia, mae'r Dodgers wedi ennill pump, tra bod mae'r Giants ond wedi ennill tair.