Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
![]() |
Cymru o fewny DU Cymru o fewnyr UE Gweithgarwch gwleidyddol |
I bwrpas llywodraeth leol, rhennirCymru yn 22 oawdurdodau unedol (ers 1 Ebrill 1996). O fewn yr haen uchaf hwn, ceir sawl math osir sefː sir, bwrdeistrefi sirol adinasoedd (gyda statws sirol).[1] Yn aml gelwir nhw o dan un enw - sir, er bod hyn yn dechnegol anghywir. Cynrychiolir yr awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r siroedd hyn ganGymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae cynghorau etholedig yr awdurdodau hyn yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethauː addysg, gwaith cymdeithasol, cadwraeth yr amgylchedd a thraffyrdd.
O dan yr haen hwn ceir cynghorau cymuned; dirprwyir rhai cyfrifoldebau iddynt hwy ee torri gwair, parciau lleol.
Fe benodirArglwydd Raglaw ganFrenhines y DU, i'w chynrychioli yn yr wythSir cadwedig sef yr ardaloedd cyfredol a ddefnyddir yng Nghymru at ddibenion seremonïol Rhaglawiaeth a Siryfiaeth.
Yn Ebrill 2013 cyhoeddwyd fod Llywodraeth Cymru am gynnalAd-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru gyda'r bwriad o dorri'r nifer o siroedd o 22 i tua 12.
Saithdinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd âstatws dinas, mae gangymunedauBangor,Llanelwy aThyddewi statws dinas a gadarnheir ganfreintlythyrau.
Yn hanesyddol roeddLlanelwy yn ddinas, gan iddi fod ynganolfan esgobaeth, a chyfeirir ati fel dinas ynEncyclopædia Britannica 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llanelwy am yr un statws, trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002.[2]
Ar 14 Mawrth 2012, fodd bynnag, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru,Cheryl Gillan, gyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai Llanelwy yn ennill statws dinas. Ymgeisiodd sawl tref, a dewiswyd Llanelwy "i gydnabod ei chyfoeth o hanes, ei chyfraniad diwylliannol a’i statws metropolitan fel canolbwynt ar gyfer technoleg, masnach a busnes."[3]
Enillodd Wrecsam gystadleuaeth i gael statws dinas yn 2022. Roedd hyn yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a gwobrwyd 8 tref ar draws y DU. Cafodd Wrecsam ei wneud yn ddinas yn swyddogol ar 1 Medi 2022.[4]
![]() |
Cymuned yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru.
Pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1974 diddymwyd yr hen siroedd gweinyddol a chreuwyd wythsir newydd yn eu lle. O'r siroedd hyn, maePowys aGwynedd yn dal i fodoli ond gyda newidiadau i'w ffiniau, yn enwedig yn achos Gwynedd a cholloddYnys Môn ac a welodd yr ardaloedd gogledd-ddwyreiniol yn mynd yn rhan oFwrdeistref Sirol Conwy. Mae siroedd 1974-1996 yn cael eu disgrifio'n swyddogol fel siroedd cadwedig ar gyfer rhai pwrpasau seremonïol ond heb unrhyw ran mewn llywodraeth leol.
Dyma'r siroedd:
Erbyn 1066 roedd Lloegr gyfan wedi cael ei rhannu'nsiroedd, ond nid oedd gan Gymru siroedd tan y 13g. Aberteifi a Chaerfyrddin a sefydlwyd yn gyntaf a hynny yn y 1240au. Ym 1284 rhannwyd "Tywysogaeth Gwynedd" yn dair sir: Môn, Caernarfon a Meirionnydd. Gellir edrych ar y drefn newydd hon felly fel trefn Seisnig a fwriwyd ar Gymru wedi syrthio'ryn ystod blynyddoedd olaf y TywysogLlywelyn II. Cyn diwedd y ganrif roedd y Fflint hithau wedi'i chlensio'n sir a olygai fod bron i hanner tiriogaeth Cymru o dan reolaeth coron Lloegr.Y Mers oedd yn weddill, a chafwyd gwared a nhw trwy ddefnyddio yDdeddf Uno1536 gan greu Sir Benfro, Sir Drefaldwyn, Sir Ddinbych, Sir Faesyfed, Sir Forgannwg, Sir Frycheiniog a Sir Fynwy. Dyna gyfanswm o 13 sir. Y mwyaf oedd Sir Gaerfyrddin (246,168ha) a Sir y Fflint (65,975ha). Cawsant eu mapio ganJohn Speed ac eraill ac fe'u derbyniwyd yn frwd gan y Boneddigion.
Yn 1974 diddymwyd yr 13 sir. Yn eu lle sefydlwyd y siroedd cadwedig uchod.
O fewnEurostats yrEnwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth(Nomenclature of Territorial Units for Statistics, NUTS), ystyrir Cymru yn rhanbarth lefel-1, gyda'r côd "UKL", ac a isrennir fel a ganlyn:
NUTS 1 | Côd | NUTS 2 | Côd | NUTS 3 | Côd |
---|---|---|---|---|---|
Cymru | UKL | Gorllewin Cymru aChymoedd De Cymru | UKL1 | Ynys Môn | UKL11 |
![]() | Gwynedd | UKL12 | |||
Conwy aSir Ddinbych | UKL13 | ||||
De-orllewin Cymru (Ceredigion,Sir Gaerfyrddin,Sir Benfro) | UKL14 | ||||
Cymoedd Canol (Merthyr Tudful,Rhondda Cynon Taf) | UKL15 | ||||
Cymoedd Gwent (Blaenau Gwent,Caerffili,Torfaen) | UKL16 | ||||
Pen-y-bont ar Ogwr aCastell-nedd Port Talbot | UKL17 | ||||
Abertawe | UKL18 | ||||
Dwyrain Cymru | UKL2 | Sir Fynwy aChasnewydd | UKL21 | ||
Caerdydd aBro Morgannwg | UKL22 | ||||
Sir y Fflint aWrecsam | UKL23 | ||||
Powys | UKL24 |
Ceir pedwarheddlu yng Nghymru:
![]() |
Ceir trigwasanaeth tân ac achub yng Nghymru:
![]() |
|