Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ap Llywelyn Gaplan

Oddi ar Wicipedia
Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ap Llywelyn Gaplan
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Uchelwr diwylliedig a bardd (yn ôl pob tebyg) oeddLlywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ap Llywelyn Gaplan (bl. ail hanner y 14g).[1]

Bywgraffiad

[golygu |golygu cod]

Roedd yn gyfaill a chyfoeswr i'r bardd enwogDafydd ap Gwilym ac yn gyfyrder i'r uchelwr a noddwrRhydderch ab Ieuan Llwyd, gŵr y bu ganddo ran amlwg ym mywyd gwleidyddol a llenyddolCeredigion yn y cyfnod dan sylw. Roedd Llywelyn yn un o noddwyr Dafydd ap Gwilym a ganodd ffug-farwnad ar ei ran i Rydderch ab Ieuan Llwyd. CanoddLlywelyn Goch ap Meurig Hen (barddLleucu Llwyd) gywydd i Lywelyn Fychan a Rhydderch gyda'i gilydd. Bu mab Llywelyn Fychan, Hywel, yn noddwr hefyd a chanoddGuto'r Glyn aIeuan Deulwyn iddo.[1]

Cerdd

[golygu |golygu cod]

Dim ond un gerdd a allai fod yn waith Llywelyn Fychan sydd ar glawr, ond dydy ei briodoldeb ddim yn sicr. Mae'n gerdd deimladwy sy'n galaru pobl a fu farw o ryw "haint y nodau" - yPla Du efallai - ac felly o ddiddordeb i haneswyr hefyd fel tystiolaeth am y Pla yng Nghymru. Gan fod y gerdd yn cyfeirio at farwolaethDafydd ap Gwilym, yn ôl pob tebyg, mae lle da i gredu mai Llywelyn Fychan oedd yr awdur, er mai 'Llywelyn Fychan' yn unig yw'r enw geir yn y llawysgrifau.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon', Atodiad,Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.11.2Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon'.
gw  sg  go
Beirdd yr Uchelwyr

Bedo Hafesb  ·Bleddyn Ddu ·Cadwaladr Cesail ·Casnodyn ·Rhisiart Cynwal ·Wiliam Cynwal ·Dafydd ab Edmwnd ·Dafydd Alaw ·Dafydd ap Gwilym ·Dafydd ap Siencyn ·Dafydd Benwyn ·Dafydd Ddu o Hiraddug ·Dafydd Gorlech ·Dafydd Llwyd o Fathafarn ·Dafydd Nanmor ·Dafydd y Coed ·Edward Dafydd ·Deio ab Ieuan Du ·Lewys Dwnn ·Edward Maelor ·Edward Sirc ·Edward Urien ·Einion Offeiriad ·Gronw Ddu ·Gronw Gyriog ·Gruffudd ab Adda ap Dafydd ·Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan ·Gruffudd ap Dafydd ap Tudur ·Gruffudd ap Llywelyn Lwyd ·Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd ·Gruffudd ap Tudur Goch ·Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed ·Gruffudd Gryg ·Gruffudd Hiraethog ·Gruffudd Llwyd ·Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan ·Guto'r Glyn ·Gutun Owain ·Gwerful Fychan ·Gwerful Mechain ·Gwilym Ddu o Arfon ·Gwilym Tew ·Hillyn ·Huw Cae Llwyd ·Huw Ceiriog ·Huw Cornwy ·Huw Llŷn ·Huw Pennant (I) ·Huw Pennant (II) ·Hywel ab Einion Lygliw ·Hywel ap Mathew ·Hywel Cilan ·Hywel Ystorm ·Ieuan ap Huw Cae Llwyd ·Ieuan ap Hywel Swrdwal ·Ieuan Brydydd Hir ·Ieuan Du'r Bilwg ·Ieuan Dyfi ·Ieuan Gethin ·Ieuan Llwyd ab y Gargam ·Ieuan Tew Ieuanc ·Iocyn Ddu ab Ithel Grach ·Iolo Goch ·Iorwerth ab y Cyriog ·Iorwerth Beli ·Iorwerth Fynglwyd ·Ithel Ddu ·Lewis ab Edward ·Lewys Daron ·Lewys Glyn Cothi ·Lewys Môn ·Lewys Morgannwg ·Llywarch Bentwrch ·Llywelyn ab y Moel ·Llywelyn ap Gwilym Lygliw ·Llywelyn Brydydd Hoddnant ·Llywelyn Ddu ab y Pastard ·Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon ·Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ·Llywelyn Goch ap Meurig Hen ·Llywelyn Goch y Dant ·Llywelyn Siôn ·Mab Clochyddyn ·Madog Benfras ·Maredudd ap Rhys ·Meurig ab Iorwerth ·Morus Dwyfech ·Owain Gwynedd ·Owain Waed Da ·Prydydd Breuan ·Tomos Prys ·Gruffudd Phylip ·Phylip Siôn Phylip ·Rhisiart Phylip ·Rhys Cain ·Rhys Nanmor ·Siôn Phylip ·Siôn Tudur ·Raff ap Robert ·Robert ab Ifan ·Robin Ddu ap Siencyn ·Rhisierdyn ·Rhisiart ap Rhys ·Rhys ap Dafydd ab Einion ·Rhys ap Dafydd Llwyd ·Rhys ap Tudur ·Rhys Brydydd ·Rhys Goch Eryri ·Sefnyn ·Simwnt Fychan ·Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan ·Siôn ap Hywel Gwyn ·Siôn Brwynog ·Siôn Cent ·Siôn Ceri ·Sypyn Cyfeiliog ·Trahaearn Brydydd Mawr ·Tudur Aled ·Tudur ap Gwyn Hagr ·Tudur Ddall ·Wiliam Llŷn ·Y Mab Cryg ·Y Proll ·Yr Ustus Llwyd

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Llywelyn_Fychan_ap_Llywelyn_Goch_ap_Llywelyn_Gaplan&oldid=10902839"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp