Enw amgen na'i briod enw a roddir ar unigolyn, peth, neu le, ywllysenw (hefydglasenw,blasenw). Math ar lysenw ywffugenw, e.e. gan lenorion, a hefydenw barddol yn y traddodiad barddol Cymraeg. Gall llysenw fod yn wawdlyd ond weithiau hefyd mae'n cyfleu anwyldeb.
Mae'r arfer o roi llysenwau ar bobl yn hynafol a cheir enghreifftiau mewn sawl diwylliant ledled y byd. Mae'n bosibl bod yr arfer yn ymwneud â'r ofergoel gyffredin fod gan enwau priod ryw hud neu rym arbennig yn perthyn iddynt. Gwelir sawl enghraifft o hyn mewnllên gwerin lle mae dyfalu enw priod rhywun yn fotiff cyffredin, e.e.Rumpelstiltskin. Weithiau mae pobl yn dewis llysenw ei hunain ond gan amlaf mae'n cael ei roi arnynt gan bobl eraill.
Dyma rai enghreifftiau o lysenwau poblogaidd ar leoedd:
Pethau:
- Hŵfer, llysenw yn wreiddiol (gwneuthurwyr y peirianthŵfer) sydd wedi dod yn enw cydanbyddedig am yrvacuum cleaner.
Ceir rhai o'r enghreifftiau cynharaf ar glawr o lysenwCymraeg yn y chwedlCymraeg CanolCulhwch ac Olwen, e.e.Dillus Barfog,Wrnach Gawr,Gwyddno Garanhir,Lludd Llaw Eraint. Ceir sawl enghraifft yn yPedair Cainc hefyd, e.e.Teyrnon Twrf Fliant. Ceir un o'r enghreifftiau cynharach oll efallai yng nghanuTaliesin yn enwFflamddwyn, un o elynionRheged.
Arferai'r beirdd Cymraeg roi llysenwau (enw barddol) ar ei gilydd, weithiau'n barchus ond weithiau hefyd yn ddigon amharchus, i'n golwg ni o leiaf. CyfeiriaNennius at y beirddBlwchfardd aTalhaearn Tad Awen er enghraifft. Ceir llu o engrheifftiau yn enwauBeirdd y Tywysogion aBeirdd yr Uchelwyr, e.e.Elidir Sais,Casnodyn.
Roedd Cymry cyffredin yr Oesoedd Canol yn arfer defnyddio llysenwau hefyd. Ceir cloddfa arbennig o gyfoethog yn y stent neu arolwg oFeirionnydd a wnaed yn y 1290au, er enghraifft. Gwelir rhai o frenhinoedd a thywysogion yGymru annibynnol yn derbyn neu'n arddel llysenwau hefyd, e.e.Brochwel Ysgithrog (brenin cynnar ar Bowys),Iorwerth Drwyndwn, tadLlywelyn Fawr, aGwladus Ddu, ferch Llywelyn.