Gofal: ceir erthygl arall o'r enwLlys Barn Rhyngwladol; ceir hefyd sawl mudiad gyda'r talfyriad 'ICC'.
Mudiad rhyng-lywodraethol a thribiwnlys ar gyfer y byd cyfan ywLlys Troseddau Rhyngwladol (Ffrangeg:Cour pénale internationale;Saesneg:International Criminal Court) (a adnabyddir hefyd gan y talfyriadau:ICC acICCt) ac sydd wedi'u sefydlu yn yrHâg yn yrIseldiroedd. Caiff y Ffrangeg a'r Saesneg eu siarad yn gyfochrog ym mhob rhan o waith y mudiad.
Defnyddir y talfyriadICCt yn aml er mwyn gwahaniaethu rhwng y Llys Troseddau Rhyngwladol a nifer o gyrff gyda'r un talfyriad e.e.International Cricket Council neu'rInternational Control Commission.
Mae gan yr ICCt yr awdurdod i erlyn unigolion am droseddau:
Ni fwriedir i'r ICCt fod yn ychwanegiad i'r system gyfreithiol ryngwladol, bresennol, ac felly dim ond ar rai adegau arbennig mae'n gweithredu; yr adegau hynny yw: pan fo llysoedd gwledydd y byd yn methu erlyn, neu ddim yn fodlon erlyntroseddwyr neu pan fo'rCenhedloedd Unedig neu wladwriaethau unigol yn gofyn iddyn nhw erlyn.
Cychwynnodd y Llys Troseddau Rhyngwladol ar ei waith ar 1 Gorffennaf 2002, yr un adeg ag y daeth 'Ystatud Rhufain i rym. Mae Ystatud Rhufain yn gytundeb amlochrog sy'n gynsail i waith yr ICCt. Pan fo gwladwriaeth yn arwyddo Ystatud Rhufain, yna dônt yn aelodau o'r ICCt yn otomatig. Yn 2015 roedd 123 gwladwriaeth wedi arwyddo Ystatud Rhufain, ac felly'n aelodau o'r Llys Troseddau Rhyngwladol.[1]
Mae gan y Llys Troseddau Rhyngwladol bedair adran: y Llywyddiaeth, Adran Farnwrol, Adran Erlyniaeth a'r Cofrestrydd. Y Llywydd yw'r Prif Farnwr ac mae wedi'i ethol gan ei gydweithwyr yn yr Adran Farnwrol sef yr adran sy'n eistedd (neu'n cymryd y gwrandawiad) yn y Llys. Ymchwilio i'r troseddau mae Adran yr Erlynydd a hi hefyd sy'n agor yr achos. Gwaith Adran y Cofrestrydd yw gweinyddu gwaith y mudiad.
Gwladwriaethau sy'n Aelodau o'r Llys
Gweithredwyd dros yr Aelod hwn Ni weithredwyd dros yr Aelod hwn Gwnaed cais i ymuno Gwladwriaeth nad yw wedi ymuno
Ar 17 Gorffennaf 1998 derbyniwyd Ystatud Rhufain gan 120 o wledydd, gyda saith yn erbyn a 21 yn ymatal. Y 7 gwlad a oedd yn erbyn ei ffurfio oedd:Unol Daleithiau America,Israel,Tsieina,Irac,Libia,Catar acIemen.[2] Yn dilyn hyn, daeth y cytundeb yn weithredol ar 1 Gorffennol 2002.[3] Penodwyd 18 o farnwyr gan Gynulliad y Gwladwriaethau (the Assembly of States Parties) yn Chwefror 2003. Tyngodd y deunaw barnwr lw o ffyddlondeb i'r Llys ar 11 Mawrth 2003.[4]
Ar y cyntaf o Ebrill, 2015 derbyniwyd Gwladwriaeth Palesteina yn 123ydd gwladwriaeth i dderbyn Ystatud Rhufain ac felly'n Aelod-Wladwriaeth (neuState Party) o'r ICC.[6]